Newyddion S4C

Annog pensiynwyr i beidio â cholli dyddiad cau taliadau tanwydd gaeaf

Hen bobl

Mae pensiynwyr yn cael eu hannog i beidio â cholli dyddiad cau allweddol a allai eu helpu i gael y taliad tanwydd gaeaf - os ydyn nhw'n gwneud cais llwyddiannus am gredyd pensiwn.

Mae’r terfyn amser ar gyfer gwneud cais am gredyd pensiwn i fod yn gymwys ar gyfer taliad tanwydd gaeaf 2024/25 yn disgyn ar ddydd Sadwrn, 21 Rhagfyr.

Yr union amser cau ar gyfer ceisiadau ar-lein yw 23:59.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau y DU (DWP) hefyd wedi dweud y bydd llinellau ffôn hawlio ar agor ar Ragfyr 21 rhwng 08:00 a 15:15pm.

Mae’r Llywodraeth yn amcangyfrif bod 760,000 o aelwydydd pensiynwyr yn gymwys i gael credyd pensiwn ond nad ydynt yn ei hawlio.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai’r lwfans tanwydd gaeaf ar gyfer pensiynwyr yn gyfyngedig i’r rhai sy’n hawlio credyd pensiwn neu fudd-daliadau yn unig, fel rhan o fesurau gyda’r nod o lenwi “twll du” yn y cyllid cyhoeddus.

Mae'r newidiadau yn golygu na fydd dros 10 miliwn o bensiynwyr yn derbyn taliadau tanwydd oedd rhwng £200 a £300 y flwyddyn.

Dim ond pobl sydd ar incwm isel ac yn derbyn rhai budd-daliadau fydd bellach yn cael y taliadau.

Anogaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Bydd dros filiwn o bensiynwyr yn dal i dderbyn y taliad tanwydd gaeaf, ac mae ein hymgyrch i hybu’r nifer sy’n hawlio credyd pensiwn wedi gweld mwy na dyblu ceisiadau gyda dros 40,000 yn fwy o bensiynwyr bellach yn ei dderbyn, yn ogystal â’r taliad tanwydd gaeaf.

“Rydym yn parhau i annog unrhyw un sy’n meddwl y gallai fod ganddynt hawl i gredyd pensiwn i wirio nawr, gan y gall pob hawliad cymwys gael ei ôl-ddyddio, a bydd unrhyw un sy’n gwneud cais llwyddiannus cyn Rhagfyr 21 yn derbyn eu taliad.”

Mae credyd pensiwn yn rhoi swm ychwanegol i bensiynwyr ar incwm isel, yn ogystal â bod yn borth i help arall gyda chostau.

Mae credyd pensiwn yn ychwanegu at incwm wythnosol i £218.15 ar gyfer pensiynwr sengl neu £332.95 ar gyfer incwm wythnosol ar y cyd ar gyfer y rhai sydd â phartner.

Mae’r polisi wedi cael ei beirniadu’n llym gan rai o'r prif undebau llafur, gydag Unite a Public and Commercial Services Union (PCS) yn dweud bod angen ail ystyried, tra bod Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) hefyd wedi mynegi pryderon.

Dywedodd y Llywodraeth ei bod wedi defnyddio tua 500 o staff ychwanegol i gefnogi prosesu ceisiadau.

Mae pensiynwyr anabl yn cael eu cefnogi gan fudd-daliadau anabledd ychwanegol a gallant hefyd fod â hawl i gredyd pensiwn yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

Gall pensiynwyr – a’u teuluoedd – gael rhagor o wybodaeth am hawlio credyd pensiwn yn:gov.uk/government/publications/pension-credit.cy

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.