Llofrudd yn pledio'n euog i ladd ei chweched dioddefwraig
Mae dyn sydd yn y carchar am ladd pump o fenywod wedi pledio'n euog i lofruddio'i chweched dioddefwraig, ychydig cyn i achos llys yn ei erbyn ddechrau.
Roedd Steve Wright, sy'n 67 oed ac sydd wedi ei ddisgrifio fel y 'Suffolk Strangler', i fod i wynebu achos yn llys yn yr Old Bailey am lofruddio Victoria Hall, 17 oed, a ddiflannodd fwy na 25 mlynedd yn ôl.
Newidiodd Wright ei ble ddydd Llun, gan gyfaddef fod Victoria wedi cael ei herwgipio "trwy rym neu dwyll" a'i llofruddio ar 19 Medi 1999.
Plediodd yn euog hefyd i geisio herwgipio Emily Doherty, oedd yn 22 oed ar y pryd, yn Felixstowe y diwrnod cynt.
Dyma'r tro cyntaf i Wright gyfaddef llofruddio neb, er gwaethaf ceisiadau gan ei deulu iddo wneud hynny.
Fe wnaeth Wright ymddangos yn noc yr Old Bailey mewn siwmper las tywyll a llwyd, gan gadarnhau ei enw a chyflwyno ei ble.
Dywedodd Mr Ustus Bennathan y byddai'n dedfrydu'r diffynnydd ddydd Gwener i roi cyfle i deulu Ms Hall fod yn bresennol a chyflwyno datganiadau effaith dioddefwyr.
Cadarnhaodd Jocelynn Ledward KC ar ran yr erlyniad y byddai ffrind Ms Hall, Gemma Algar, a Ms Doherty hefyd yn cyflwyno datganiadau.
Carchar
Mae Wright, sy'n garcharor yn HMP Long Lartin yn Sir Gaerwrangon, yn treulio dedfryd o garchar am oes gyfan am lofruddiaethau pump o fenywod saith mlynedd ar ôl i Victoria gael ei lladd.
Daw ei ble ar ôl i Mr Ustus Bennathan ddyfarnu y gallai'r rheithgor yn ei achos gael gwybod am yr euogfarnau blaenorol, er fod ei dîm cyfreithiol wedi dadlau y byddai hynny'n llywio barn y rheithgor.
Roedd Victoria, o Trimley St Mary yn Suffolk, wedi gadael ei chartref ar 18 Medi 1999 i fynd am noson allan gyda'i ffrind Ms Algar yng nghlwb nos Bandbox yn Felixstowe.
Bum niwrnod yn ddiweddarach, cafwyd hyd i'w chorff mewn ffos yn Creeting St Peter, tua 25 milltir o'r man lle'i gwelwyd ddiwethaf.
Roedd Victoria, oedd yn fyfyrwraig chweched dosbarth, wedi gobeithio astudio cymdeithaseg ym mhrifysgol Roehampton, Surrey, cyn iddi gael ei lladd.
Flwyddyn ar ôl ei llofruddiaeth, fe wnaeth ei rhieni, Graham a Lorinda Hall apelio am gymorth i ddod i'w llofrudd.
Dywedodd Mr Hall ar y pryd ei fod yn parhau i fod yn llawn gobaith, gan ddweud: "Rhaid bod pwy bynnag a wnaeth hyn o dan gymaint o bwysau â ni. Maen nhw wedi'i gael ar eu cydwybod drwy'r amser."
Bu farw Mrs Hall fis Rhagfyr diwethaf, cyn iddi weld cyfiawnder yn digwydd.