Arweinwyr i adolygu sefyllfa porthladd Caergybi yn y flwyddyn newydd
Mae arweinwyr gwleidyddol Iwerddon a Chymru wedi cytuno i adolygu'r cynnydd o amgylch atgyweirio porthladd Caergybi yn y flwyddyn newydd.
Cafodd y porthladd prysur ar Ynys Môn ei gau yn dilyn difrod yn ystod Storm Darragh ac nid oes disgwyl iddo ailagor tan 15 Ionawr ar y cynharaf.
Mae'r holl wasanaethau fferi rhwng Dulyn a Chaergybi wedi'u canslo ar hyn o bryd, gan olygu bod newid i gynlluniau teithio miloedd yn nhymor y Nadolig.
Bu Prif Weinidog Iwerddon, Simon Harris, yn siarad â Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ddydd Gwener am effaith cau y porthladd ar symud pobl a nwyddau rhwng Iwerddon a Phrydain.
Mae'n debyg bod y ddau arweinydd yn cydnabod yr ymdrechion parhaus sy'n cael eu gwneud ar y ddwy ochr i sicrhau bod pobl sy'n teithio adref ar gyfer y Nadolig yn gallu gwneud hynny.
Buont hefyd yn trafod pwysigrwyd sicrhau digon o gapasiti porthladdoedd i gynnal y cadwyni cyflenwi sy’n hanfodol i’r ddwy economi, a chytunwyd i siarad eto yn y Flwyddyn Newydd i adolygu cynnydd.
Dywedodd Taoiseach Iwerddon eu bod wedi trafod yr angen i ddod o hyd i ddewisiadau ymarferol eraill tra bod Caergybi yn parhau ar gau.
“Mae cau porthladd Caergybi wedi achosi llawer o dorcalon ac aflonyddwch i bobol a masnachwyr y Nadolig hwn,” meddai.
“Cymerais ar y cyfle y prynhawn yma i bwyso a mesur y sefyllfa gyda Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan.
“Buom yn trafod pwysigrwydd sicrhau digon o gapasiti porthladdoedd i Gymru ac Iwerddon i gefnogi cadwyni cyflenwi hanfodol rhwng Iwerddon a’r DU, a’r angen i ddod o hyd i ddewisiadau amgen ymarferol cyhyd ag y bydd Caergybi yn parhau i fod allan o gomisiwn.
“Mi wnaethon ni fynegi dymuniad ar y cyd i weld Caergybi yn dychwelyd i weithredu ym mis Ionawr, a chytunwyd i siarad eto ddechrau Ionawr i adolygu materion bryd hynny.”