'Anrheg Nadolig perffaith': Dyn o Sir Gâr yn ennill prif wobr Cwis Bob Dydd
Mae dyn o Sir Gâr wedi ennill prif wobr cwis dyddiol S4C.
Fe gafodd Llyr Evans o ardal Cydweli wybod ei fod wedi ennill prif wobr Cwis Bob Dydd ddydd Sul.
Fe enillodd wyliau i bedwar mewn chalet moethus ym Méribel yng nghanol yr Alpau Ffrengig, meddai S4C.
Mae Llyr a'i bartner Ann wedi bod yn chwarae'r cwis ers mis Mai, gan ateb cwestiynau dyddiol ar yr ap.
Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd Llyr mai dyma'r "anrheg Nadolig perffaith".
"Doeddwn i ddim yn meddwl am eiliad y byddwn i'n ennill y gwyliau wrth chwarae'r ap, does dim pasbort gen i hyd yn oed," meddai.
"Dw i jyst yn chwarae Cwis Bob Dydd i gael hwyl - am syrpreis anhygoel ac anrheg Nadolig perffaith! Diolch S4C."
Roedd pob cynnig wedi sicrhau tocyn yn raffl fawr y cwis ar gyfer y brif wobr, gyda'r enillydd yn cael ei dynnu o blith mwy nag 850,000 o docynnau.
Roedd 'na wobrau wythnosol hefyd, gan gynnwys tocynnau rygbi rhyngwladol, dillad, iPhone ac iPad.