Newyddion S4C

Bandiau wnaeth newid agwedd pobl at y Gymraeg medd Rhys Ifans

Ffa Coffi Pawb

Bandiau wnaeth newid agwedd pobl at y Gymraeg medd yr actor Rhys Ifans. 

Mewn rhaglen sy’n trafod hanes a dylanwadau cynnar y band Ffa Coffi Pawb ar S4C mae’n dweud nad polisïau gwleidyddol gafodd effaith. 

“Fyswn i yn dadlau bod hyn ddim byd i neud efo polisi iaith y Senedd. Mae o i neud efo hogiau a genod y sîn yna ar y pryd oedd yn ddigon dewr i gamu dros y ffin efo dewrder a chwilfrydedd a hyder,” meddai.

Mae’r rhaglen yn olrhain hanes y sîn roc Gymraeg o ddechrau’r 80au ac yn dod i ben yn sôn am lwyddiant Super Furry Animals a bandiau eraill o Gymru yn ystod y 90au.  Mae’n defnyddio archif o’r cyfnod a chyfweliadau gyda nifer oedd yn ymwneud gyda’r sîn ar y pryd. 

Gwrando ar recordiau yn siop Recordiau Cob ym Mangor oedd y ddau ffrind, Gruff Rhys a Rhodri Puw pan oedden nhw yn ddisgyblion ysgol. 

Mi gafodd bandiau lleol Bethesda hefyd ddylanwad fel Maffia Mr Huws. Ond mi oedd y sin tanddaearol hefyd yn bwysig. Un o’r rhai amlwg yn oedd Rhys Mwyn aeth ati i ffurfio Recordiau Anrhefn. 

“Odd y petha oedd yn dod allan ar Recordiau Anrhefn, oedd o’n teimlo yn chwyldroadol yn gerddorol a gwleidyddol. Oedd o ddim ynglŷn â chanu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ ac yfad cwrw mewn crys rygbi," meddai'r canwr Gruff Rhys.

"Oedd o’n rhywbeth oedd yn cofnodi’r caledi a’r rhwystredigaeth o dyfu fyny yn yr 80au."

'Enw ffiaidd'

Fe benderfynodd Gruff a Rhodri ffurfio band a mynd ati i recordio tair cân yn stiwdio’r cynhyrchydd Gorwel Owen. Fe ymunodd Dafydd Ieuan ar y drymiau a Dewi Emlyn ar y bâs. Roedd yna feddwl tu ôl i enw’r grŵp. 

Obviously oeddan ni isio enw oedd yn ffiaidd, oedd efo pwrpas. Oedd o fod i olygu be oedd o’n olygu. Ond odd isio trio meddwl am sillafiad diddorol oedd yn chwarae ar eiriau,” meddai Rhodri Puw..

Fe weithiodd gan olygu bod Ffa Coffi Pawb wedi ei wahardd “yn syth mwy neu lai” meddai Gruff Rhys.

Yn fuan wedyn cafodd pwyllgor ei sefydlu, Pop Positif a hynny meddai’r cerddor Rhys Mwyn mewn cyfnod pan oedd y sin tanddaearol yn dod i ben. 

“Dwi’n cofio dadlau efo Gorwel Owen, Mark Cyrff a pethau rhaid i chi gyd sefydlu eich labeli rŵan. Be da ni isio ydy twf y labeli. Mewn ffordd hwnna oedd y cam nesaf.”

Image
Logo Ffa Coffi Pawb
Fe gafodd y band sylw gan y cyfryngau o achos yr enw roedden nhw wedi dewis 

Ar ôl i Ffa Coffi Pawb gwrdd â Huw Gwyn, un oedd a label casetiau ei hun, cafodd y band ei arwyddo am filiwn o bunnau. 

Mae Gruff Rhys yn cofio’r foment pan y cafon nhw’r siec yn glir. 

“Oddan ni yn gwybod yn well i beidio trio cashio hi!” meddai.

Roedd steil canu Gruff Rhys yn anghyffredin yn y Gymraeg ar y pryd meddai’r actor Rhys Ifans. Roedd Rhys yn ffrindiau gyda aelodau’r band ac hefyd yn un o arloeswyr cyhoeddiad cerddorol am yr hyn oedd yn digwydd yn y sîn Gymraeg sef Ffansîn.

“O’n i heb glywed hynna o’r blaen, heblaw ella am Jarman. Odd bob dim arall yn y Gymraeg, dim ots be oedd o unai yn aggressive neu yn dathlu bob gair fel fysa fo’r tro dwytha i chi siarad y f***ing iaith.”

Roedd yr 80au yn gyfnod o densiynau gwleidyddol gyda Margaret Thatcher mewn grym a mudiadau fel CND a’r Mudiad Gwrth Apartheid yn codi eu llais. 

Ond doedd yna ddim ‘canu sloganau gwleidyddol’ yn digwydd gyda Ffa Coffi Pawb meddai Gruff Rhys.

Roedd gan Ffa Coffi ddiddordeb mewn synau mwy melodic a seicadelic oedd i’w clywed yn rhyngwladol. 

Roedd y diwylliant ar y pryd wedi newid. Fe gafodd rhai o aelodau o’r band eu dylanwadu gyda byw am gyfnod ym Manceinion hefyd. 

“Oddan ni yn cymryd ysbrydoliaeth o sut oedden nhw yn denu clustiau’r byd at be oeddan nhw yn neud yna ac oeddan ni ddim yn gweld pam fysa hynny methu digwydd yng Nghymru,” meddai Gruff Rhys.

'Redeg ei gwrs'

Ond wedi record hir Hei Vidal yn 1992 fe ddaeth pethau i ben. Ar ôl blynyddoedd o gigio a dim momentwm o du allan i Gymru roedd hi’n teimlo yr adeg iawn meddai’r dymiwr Dafydd Ieuan. 

“Dyna nath ddigwydd yn diwadd, nath o redeg ei gwrs o ran be oeddach chdi’n gallu neud, canu mond yn Gymraeg, jest yng Nghymru,” meddai.

Pan benderfynodd rhai o gyn aelodau Ffa Coffi Pawb ac unigolion eraill ffurfio grŵp arall, Super Furry Animals fe gafon nhw eu harwyddo gan label recordiau o fewn pedair gig. 

Fe benderfynodd Super Furries ganu caneuon yn Saesneg ac yn Gymraeg, rhywbeth roedd bandiau eraill o Gymru hefyd wedi dechrau gwneud fel Gorkys a Catatonia. 

Meithrin talent

Cafodd Super Furry Animals lwyddiant rhyngwladol gan deithio’r byd.  

“Odd y broses di cymryd 12 mlynedd  o gigs ers oeddan ni tua tair ar ddeg yn chwarae rownd neuaddau gwledig yng Nghymru. Erbyn diwedd y ganrif, erbyn Rhagfyr 99 oeddan ni yn headlinio’r CIA yn Caerdydd fysa wedi bod tu hwnt i ddychymyg unrhyw un 5 mlynedd ynghynt,” meddai Gruff Rhys.

Mae Rhodri Puw yn dweud bod y dyddiau cynnar wedi meithrin talentau mawr. 

“Erbyn y diwedd nathan ni chyrnio allan probs dau o songwriters gorau mae Cymru di gael yn Mark (Y Cyrff) a Gruff do. A dwi’n meddwl eu prentisiaeth nhw oedd neud y blydi gigs Cymraeg ‘na.” 

Bydd rhaglen Ffa Coffi Pawb i'w gweld ar S4C Rhagfyr 22 am 21:00

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.