Urddo cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn arglwydd
Mae cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi ei urddo yn arglwydd.
Mae ymysg 30 o benodiadau newydd i Dŷ’r Arglwyddi o rengoedd y Blaid Lafur gan Lywodraeth y DU ddydd Gwener.
Bu Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru rhwng 2009 a 2018.
Mae’r penodiadau eraill yn cynnwys Sue Gray, cyn bennaeth staff y Prif Weinidog Keir Starmer a ymchwiliodd i ‘partygate’ Boris Johnson.
Enw arall Cymreig ar y rhestr yw Kevin Brennan, cyn Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd a chyn weinidog yn yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ac Is-ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.
Mae'n Brif Gynghorydd Arbennig i'r Prif Weinidog Eluned Morgan ar hyn o bryd.
Bydd y cyn Aelod Seneddol Ewropeaidd, Aelod Seneddol a Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Wayne David, yn cymryd lle Kevin yn Brif Gynghorydd Arbennig y Prif Weinidog yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: "Hoffwn ddiolch i Kevin am gamu i’r adwy i helpu pan gymerais yr awenau fel Prif Weinidog ym mis Awst.
"Mae ei brofiad, ei gyngor a'i gyfeillgarwch wedi bod yn amhrisiadwy wrth fy helpu gyda sialensau rôl heriol y Prif Weinidog. Rwy’n gwybod y bydd yn parhau i wasanaethu buddiannau Cymru yn ei swydd newydd.
"Rwy'n falch iawn bod Wayne David wedi cytuno i ymgymryd â rôl y Prif Gynghorydd Arbennig. Rydym wedi cydweithio'n agos dros ddegawdau, ac fel Kevin, mae gan Wayne brofiad enfawr o wleidyddiaeth Cymru a'r DU. Rwy'n teimlo'n ffodus i gael olynydd mor wych i Kevin yn Wayne."
Roedd yna hefyd chwech arglwydd newydd o rengoedd y Ceidwadwyr a dau o'r Democratiaid Rhyddfrydol.