Apêl am wybodaeth wedi i fenyw farw mewn gwrthdrawiad yn Y Fenni
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi apêl am wybodaeth wedi i fenyw farw mewn gwrthdrawiad yn Y Fenni
Cafodd swyddogion Heddlu Gwent a pharafeddygon eu galw i’r digwyddiad ar yr A465, yn agos i orsaf drenau Y Fenni yn dilyn adroddiad o ddamwain tua 17:00 ddydd Llun, 16 Rhagfyr.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car a cherddwraig o’r enw Jean Campbell, 79 oed, o Sir Fynwy.
Bu farw Ms Campbell yn y fan a'r lle.
Mae ei theulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd yr wrthdrawiad, neu a oedd yn yr ardal cyn i’r gwrthdrawiad ddigwydd.
Mae modd cysylltu gyda nhw drwy ffonio 101, neu drwy eu cyfryngau cymdeithasol gan ddyfynnu’r rhif: 2400415317.