Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth am deulu dyn o'r gogledd fu farw ar y rheilffordd

20/12/2024
Gorsaf Broad Green

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am deulu dyn o'r gogledd a fu farw ar y rheilffordd yn Lerpwl.

Bu farw David Lloyd Hughes, 77 oed ar y tcledrau yng ngorsaf Broad Green.

Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad am 17.05 ar 18 Tachwedd yn dilyn adroddiadau bod person wedi ei anafu.

Fe wnaeth parafeddygon fynd i'r orsaf ond bu farw David Lloyd Hughes yn y fan a'r lle.

Dywedodd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig nad oedd ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Ychwanegodd y llu eu bod yn ceisio dod o hyd i deulu Mr Hughes, sydd yn wreiddiol o Fwcle ond y gred oedd ei fod yn byw ym Mhenyffordd pan fu farw.

Mewn datganiad dywedodd y llu: "Y gred yw bod ganddo frawd yn Seland Newydd, ond er gwaethaf ymholiadau helaeth, nid oedd swyddogion yn gallu dod o hyd i deulu Mr Hughes er mwyn rhoi gwybod iddynt am y newyddion trist.

"Rydym yn apelio am unrhyw deulu neu unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am deulu Mr Hughes i gynorthwyo gyda'r ymchwiliad.

"Fe allwch chi gysylltu gyda'r Heddlu Trafnidiaeth trwy ddanfon neges testun i 61016, ffonio 0800 40 50 50 a dyfynnu'r cyfeirnod 465 18/11/24."

Llun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.