Newyddion S4C

Blaenau Ffestiniog: Datgelu murlun i ddathlu’r unig ferch i ddefnyddio’r 'car gwyllt'

Murlun Blaenau Ffestiniog

Mae’r unig ferch a gofnodwyd yn defnyddio’r “car gwyllt” ar droad yr ugeinfed ganrif yn ymddangos mewn murlun newydd ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae’r mosaig sydd wedi ei wneud o lechi wedi ei osod ar dalcen adeilad Beatons yn y dref yng Ngwynedd.

Mae’n dangos Kate Griffiths, ysgolfeistres Rhiwbach ar ddechrau'r 1900au, a oedd yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol bob diwrnod mewn ffordd unigryw iawn.

Yn y prynhawn byddai’n cerdded i chwarel Graig Ddu ac yn dod yn ôl i lawr i Flaenau ar ei char gwyllt.

Roedd y 'car gwyllt' yn gerbyd oedd yn rhedeg ar draciau oedd yn cael ei ddefnyddio gan chwarelwyr i ddod i lawr y tri incléin serth o'r chwarel ar eu ffordd adref. 

Image
Y mosaig
Y mosaig

Original Roofing Company, cwmni lleol o Flaenau Ffestiniog, sydd wedi creu’r murlun gan ddefnyddio sawl math o lechen o wahanol liwiau a gwead. 

Yn ogystal â’r car gwyllt, gwelir yr haenau llechi yn y graig, tirlun mynyddoedd y Moelwyn a’r tomennu llechi a nodau cerddoriaeth i gynrychioli’r bandiau pres a’r eisteddfodau.

Image
Kate Griffiths

Cyfarwyddwyr cwmni Original Roofing yw Sam Buckley a Kaz Bentham, dau sy’n hanu o Flaenau Ffestiniog ac wedi gweithio gyda llechi ers iddynt adael yr ysgol. 

Eglurodd Sam ei fod wedi bod yn “dipyn o sialens sut i gyfleu stori diwydiant llechi Blaenau a hynny drwy ddefnyddio’r llechen ei hunan; dwi’n credu inni lwyddo yn y pen draw”.

Yn ôl Kaz, roedd angen defnyddio dychymyg wrth osod deunyddiau fel pres a dur i gynrychioli gwahanol agweddau o’r cynllun.

Dywedodd: “Roedd archebu rhai deunyddiau yn drwm ar y boced ond mae’r gwaith pres, er enghraifft, wedi llwyddo i gyfleu sawl agwedd amlwg a phwysig o stori'r dre, fel y bandiau pres enwog, a hynny mewn modd trawiadol.”

Comisiynwyd y gwaith gan Gyngor Gwynedd fel rhan o raglen Llewyrch o’r Llechi. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.