Cynlluniau i ddymchwel cyn-ffatri 2 Sisters yn Llangefni
Mae'n bosib y bydd cyn-ffatri ieir y 2 Sisters yn Llangefni, Ynys Môn yn cael ei dymchwel er mwyn gwneud lle ar gyfer “ailddatblygiad” y safle.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi derbyn cais i benderfynu a oes angen “cymeradwyaeth flaenorol” ar gyfer dymchwel holl adeiladau’r cyn-ffatri prosesu ieir yn Llangefni.
Caeodd y ffatri ei drysau am y tro olaf fis Mawrth, 2023 ar ôl bron i 50 mlynedd o fod ar waith.
Ar yr adeg honno, dywedodd y cwmni fod y ffatri yn hen ac y byddai’n rhaid buddsoddi’n sylweddol ynddi er mwyn iddi gyrraedd safon ffatrïoedd lleoliadau eraill y cwmni.
Roedd y penderfyniad i gau’r ffatri yn golygu bod mwy na 700 o swyddi wedi cael eu colli, ac roedd y newyddion wedi ei ddisgrifio’n “ergyd ddifrifol” i economi’r ynys.
Mae’r Cyngor bellach wedi derbyn yr ymholiad cynllunio gan Bloom Developments, sy’n dweud bod adeiladau’r ffatri yn ddiangen ac y byddai’r dymchwel yn “creu lle ar gyfer ailddatblygiad safle’r 2 Sisters.”
Mae’r cais hefyd yn nodi y byddai disgwyl i’r gwaith dymchwel ddechrau ar 6 Ionawr 2025 ac y byddai wedi ei orffen erbyn 3 Chwefror 2025.
Y bwriad ydi i’r dymchwel fod yn broses "fecanyddol", sy’n golygu na fydd ffrwydradau yn cael eu defnyddio.
Bydd y craidd caled sy’n weddill yn cael ei "chwalu a’i ddefnyddio yn yr ailddatblygiad”, a bydd gwastraff yn cael ei gludo i “orsaf drosglwyddiad trwyddedig.”