Abertawe: Dyn a laddodd dau i gael ei ddedfrydu ar gamera am lofruddio ei gymydog
Rhybudd - Mae'r erthygl ganlynol yn cynnwys disgrifiadau o drais eithafol
Mae disgwyl i ddyn a laddodd dau o bobl gael ei ddedfrydu ar gamera ddydd Gwener am lofruddio ei gymydog ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar.
Fe ymosododd Brian Whitelock, 67, ar ei gymydog Wendy Buckney, 71, yn ei chartref ei hun gyda chyllell, coes bwrdd, a silff bren ym mis Awst 2022.
Roedd Ms Buckney wedi dioddef ymosodiad rhyw ac artaith cyn cael ei churo i farwolaeth. Fe gafodd ei chorff ei ddarganfod yn ystafell fyw ei chartref.
Mae camerâu wedi cael eu caniatáu i ffilmio dedfryd Whitelock yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Clywodd y llys yn flaenorol fod Whitelock wedi ei garcharu am oes yn 2001 am lofruddiaeth a dynladdiad, ac fe gafodd ei ryddhau yn 2018.
Fe gurodd Nicholas Morgan i farwolaeth gan roi ei gorff ar dân, a bu farw brawd Whitelock, Glen, a oedd yn cysgu, yn ddiweddarach yn y tân.
Ar 27 Tachwedd, fe gafwyd Whitelock yn euog o lofruddio Ms Buckney gan reithgor mewn achos a wnaeth bara pythefnos.
Yn ystod yr achos, dywedodd Christopher Rees KC ar ran yr erlyniad fod Whitelock yn gaeth i gyffuriau ers amser hir ac roedd ganddo hanes o drais.
Fe gynrychiolodd Whitelock ei hun yn yr achos gan ddweud wrth y rheithgor nad oedd ganddo unrhyw gof o'r digwyddiad a'i fod yn dioddef o anaf i'r ymennydd ar yr adeg.
Mewn datganiad, fe wnaeth teulu Ms Buckney ei disgrifio fel "chwaer a modryb yr oedd pawb yn ei charu."