Newyddion S4C

Agor cwest i farwolaeth deifiwr aeth ar goll ym Mhen Llŷn

Imrich

Mae cwest wedi ei agor ddydd Gwener i farwolaeth dyn aeth ar goll ym Mhen Llŷn yng Ngwynedd.

Cafwyd hyd i gorff Imrich Magyar ar draeth yn Llangwnnadl ger Pwllheli yng Ngwynedd, ar 7 Rhagfyr.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon bod aelod o’r cyhoedd wedi rhoi gwybod i wylwyr y glannau yn flaenorol bod rhywbeth yn arnofio yn y môr ger Porth Ysgaden.

Daeth gweithwyr y bad achub o hyd i fwi (buoy) ar wyneb y dŵr sy’n cael ei ddefnyddio gan ddeifwyr.

Dywedodd y crwner fod offer anadlu ynghlwm wrth y rhaff bwi.

Roedd archwiliad post-mortem wedi'i gynnal ar Mr Magyar, 53, o Churchill Avenue, Culcheth, Warrington.

Ond fe ychwanegodd y crwner, Sarah Riley, crwner cynorthwyol gogledd orllewin Cymru, nad oedd “sicrwydd eto beth achosodd ei farwolaeth”.

“Mae angen profion pellach.”

Gohiriwyd y cwest.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.