Clydach: Dedfryd oes gyfan i ddyn am ladd ei gymydog
Mae dyn a oedd wedi ei ryddhau o'r carchar am ladd dau o bobl cyn iddo ladd ei gymydog wedi cael ei ddedfrydu i dreulio gweddill ei oes yn y carchar.
Fe ymosododd Brian Whitelock, 67, ar ei gymydog Wendy Buckney, 71, yn ei chartref yng Nghyldach gyda chyllell, coes bwrdd, a silff bren ym mis Awst 2022.
Cafodd ei ddedfrydu i oes gyfan yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, gan olygu na fydd fyth yn cael ei ryddhau.
Roedd Ms Buckney wedi dioddef ymosodiad rhywiol ac artaith cyn cael ei churo i farwolaeth.
Fe gafodd ei chorff ei ddarganfod yn ystafell fyw ei chartref.
Clywodd y llys fod Whitelock wedi ei garcharu am oes yn 2001 am lofruddiaeth a dynladdiad, ac fe gafodd ei ryddhau yn 2018.
Fe gurodd Nicholas Morgan i farwolaeth gan roi ei gorff ar dân, a bu farw brawd Whitelock, Glen, a oedd yn cysgu, yn ddiweddarach yn y tân.
Ar 27 Tachwedd, fe gafwyd Whitelock yn euog o lofruddio Ms Buckney gan reithgor mewn achos a wnaeth bara pythefnos.
Yn ystod yr achos, dywedodd Christopher Rees KC ar ran yr erlyniad fod Whitelock yn gaeth i gyffuriau ers amser hir ac roedd ganddo hanes o drais.
'Ail fam'
Fe gynrychiolodd Whitelock ei hun yn yr achos gan ddweud wrth y rheithgor nad oedd ganddo unrhyw gof o'r digwyddiad a'i fod yn dioddef o anaf i'r ymennydd yn ystod cyfnod y llofruddiaeth ddiweddaraf.
Wrth roi'r dedfryd iddo, dywedodd y barnwr bod Ms Buckney wedi rhoi arian iddo am wneud tasgau bach iddi, yn ogystal â darparu bwyd iddo.
Dywedodd: “Fe wnest ti ei disgrifio hi fel ‘ail fam’ i ti. Roedd hi’n haeddu gwerthfawrogiad a dim arall.
“Fe wnest ti ei lladd er mwyn dy bleser dy hun. Ar ôl creulondeb dy ymosodiad arni mewn bywyd, mi wnest ti ddiraddio ei chorff mewn marwolaeth.
“Dywedaist wrth bobl ei bod hi’n erfyn arnat i roi’r gorau iddi. Fe wnest ti ei ddisgrifio fel artaith, a dyna’n union oedd o.
“Does dim amheuaeth bod elfen o bleser rhywiol yn dy ymosodiad.”
Ychwanegodd y barnwr: “Dyma achos difrifol dros ben.
“Does gen i ddim amheuaeth bod difrifoldeb y llofruddiaeth mor eithafol mai’r unig gosb gyfiawn fyddai eich cadw dan glo am weddill eich oes.
“O ganlyniad i hyn, ni fydd y ddarpariaeth o ryddhad buan yn gymwys ac ni fydd parôl yn cael ei ystyried."
Mewn datganiad, fe wnaeth teulu Ms Buckney ei disgrifio fel "chwaer a modryb yr oedd pawb yn ei charu."