Newyddion S4C

Bryn Fôn yn gwrthod perfformio yn yr Eisteddfod dros 'anfodlonrwydd gyda'r Fedal Ddrama'

Bryn Fôn yn gwrthod perfformio yn yr Eisteddfod dros 'anfodlonrwydd gyda'r Fedal Ddrama'

Mae Bryn Fôn wedi gwrthod gwahoddiad gan yr Eisteddfod Genedlaethol i berfformio ar Lwyfan y Maes yn Wrecsam y flwyddyn nesaf oherwydd ei "anfodlonrwydd gyda sefyllfa'r Fedal Ddrama".

Dywedodd wrth Newyddion S4C nad oedd "yn gallu derbyn gwaith a thâl" gan y brifwyl wrth brotestio yn eu herbyn ar fater arall.

Mae'n un o 250 o bobl sydd wedi llofnodi llythyr agored at Lys yr Eisteddfod gan ddweud eu bod nhw'n "gwbl anhapus" gyda'r sefyllfa.

Fe gafodd cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ei hatal eleni ond nid yw'r Eisteddfod Genedlaethol wedi esbonio'r rhesymau y tu ôl i'r penderfyniad.

Dywedodd Ashok Ahir, Llywydd Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod, yn gynharach fis yma bod y gystadleuaeth wedi ei hatal “er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad".

Derbyniodd Bryn Fôn y gwahoddiad i berfformio yn Wrecsam tra'r oedd ar ei wyliau ym Mhatagonia tua mis yn ôl a dywedodd ei fod wedi gobeithio y byddai sefyllfa'r Fedal Ddrama wedi cael ei ddatrys erbyn iddo ddychwelyd.

"Neshi ddeud byswn i’n trafod ar ôl dod adra, a o’dd y pwysau’n dechra am y seremoni Medal Ddrama," meddai.

"O’n i’n cymryd tra byswn i ffwrdd fysa’ petha wedi cael ei ddatrys, ond erbyn i fi ddod yn ôl roeddwn i’n gobeithio gallu trafod a gwneud y gig ar Lwyfan y Maes.

"Felly roedd o’n dipyn o sioc i ddod adra a ffendio bod yr holl beth yn dal i gyniwair ac os rwbath yn mynd yn waeth."

Ychwanegodd: "Neshi gysylltu gyda swyddog y Steddfod sydd yn trefnu artistiaid a dweud y bysai’n anodd iawn i mi dderbyn y gwahoddiad oherwydd byswn i’n gweld fy hun fel tipyn bach o hypocrite yn derbyn gwaith a derbyn tâl gan y Steddfod tra ar yr un pryd bo’ fi’n beirniadu ac yn protestio yn eu herbyn nhw ar fater arall.

"Mae o'r unig ffordd fedrai ddangos fy anfodlonrwydd ydi rhyw brotest bach fel hyn felly, rhyw ffordd gen i o drio dangos fy nghefnogaeth."

Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Cafodd Bryn Fôn gynnig i chwarae ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Wrecsam y flwyddyn nesaf.

"Gwrthododd y cynnig i berfformio ar sail ei egwyddorion, ac rydyn ni’n parchu ei benderfyniad.”

'Colli urddas'

Cafodd trafodaeth gan banel canolog Theatr yr Eisteddfod ei chynnal ym mis Tachwedd, “i drafod cynrychiolaeth yn y theatr yng Nghymru”.

Er gwaethaf y cyfarfod hwnnw nad yw'r Eisteddfod wedi cyhoeddi rheswm penodol dros ddiddymu'r gystadleuaeth eleni.

Dywedodd Bryn Fôn y byddai yn derbyn y gwahoddiad i berfformio yn Wrecsam os oedd yr Eisteddfod yn rhoi eglurhad llawn.

Hefyd mae'n dweud bod angen "mwy o barch" i'r theatr a'r Fedal Ddrama.

"Mae’r ddrama a'r theatr wedi mynd yn eilbeth i’r 'Steddfod dwi’n meddwl, dydy o heb gael llawer o barch ers blynyddoedd bellach," meddai.

"Dyw’r dramâu buddugol ddim wedi bod yn cael llawer o sylw, dim wedi cael eu llwyfannu, does 'na’m gofod da iawn ar y maes, prin iawn yw’r cyfle i weld drama yn y steddfod bellach.

"Felly ma na rhyw hen deimlad bod ni’n cael ein gwthio i gongl ers tro byd. Ond wedyn sioc bod y seremoni ei hun wedi cael ei gohirio heb unrhyw eglurhad, wnaeth hynny ysgwyd pawb.

"Ac wedyn yr amharodrwydd 'ma i drafod a dweud yn union be' 'sy di ddigwydd. Ma' nhw’n cuddio tu ôl i wahanol resymau fel peidio datgelu pobl, deddf gwlad a bob dim arall, mae o i gyd yn rybish.

"Ma' rhaid i’r seremoni Fedal Ddrama cael bach o urddas yn ôl, dwi’n teimlo fel bod ni'n cael ein hesgeuluso tu ôl i’r llenyddiaeth a’r cantorion a phawb arall sy’n cymryd rhan yn y Steddfod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.