Ymgyrchwyr yn protestio dros 'achub tref a champws' Llambed
Ymgyrchwyr yn protestio dros 'achub tref a champws' Llambed
Mae ymgyrchwyr wedi protestio ddydd Gwener yn erbyn y bygythiad o gau campws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.
Ar 11 Rhagfyr dywedodd y brifysgol eu bod yn ymgynghori gyda staff a myfyrwyr y campws ynglŷn â chynnig i symud y ddarpariaeth dyniaethau i Gaerfyrddin o fis Medi 2025 ymlaen.
Byddai hynny'n golygu y gallai 30 o gyrsiau gael eu symud oddi ar y campws yn Llambed.
Dywedodd y sefydliad nad oedd y safle yn gynaliadwy bellach.
Fe wnaeth Mr Ieuan Davies a Chymdeithas Llambed, cymdeithas cyn-fyfyrwyr y brifysgol, lansio deiseb yn erbyn y cynigion sydd angen 10,000 o lofnodion i orfodi dadl ar y mater yn y Senedd.
Mae cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr a thrigolion y dref wedi dangos eu hanfodlonrwydd gyda'r penderfyniad, ac mae ymgyrchwyr wedi penderfynu protestio.
Dywedodd Ieuan Davies, un o drefnwyr y brotest ac aelod o gymdeithas cyn-fyfyrwyr y brifysgol, wrth Newyddion S4C bod angen achub y dref a'r campws.
"Oherwydd fod Llambed mas yn y wlad, ma' rhaid cael pobl mewn i'r dre," meddai.
"Yn bersonol i fi oedd Llambed yn dre’ lleol i fi ac o’n i’n lwcus iawn i fynd yno. Mae rhaid safio’r lle oherwydd mae cymaint o hanes i gael wrth gwrs.
Ychwanegodd Mr Davies: "Fues i’n lwcus iawn i fynd i Llambed, mae’r coleg mor bwysig i’r dre', roedd dros 1,000 yna ar un pryd ac oedd busnesau yn y dref yn elwa yn fawr o’r myfyrwyr achos maen nhw gyd yn mynd yna ac yn gwario arian.
"Pan mae nifer y myfyrwyr yn mynd lawr, mae’r elw i fusnesau lleol, tafarndai yn mynd lawr hefyd. Felly mae’n mynd i fod yn gic fawr i economi’r dre’ a’r ffiniau."
'Penderfyniad wedi ei wneud yn barod'
Mae'r brifysgol wedi bodoli ers dros 200 mlynedd a dyma'r sefydliad hynaf yng Nghymru sydd yn dyfarnu graddau.
Yn ogystal mae'r Gymraeg yn bwysig yn hanes tref Llambed, sef man geni rygbi hefyd.
Mae Ieuan Davies yn poeni am effaith y Gymraeg yn yr ardal ac yn galw ar y brifysgol i siarad gyda phobl leol.
"Dwi’n ofni bod y penderfyniad wedi cael ei wneud yn barod, dim ond dau gwrs fydd ar ôl yn Llambed.
"I feddwl y coleg fwya’ Cymreigaidd yng Nghymru a bod nhw’n gau e. Y'n ni'n ni am i’r brifysgol i wrthdroi’r cynlluniau sydd gyda nhw, i edrych am gynlluniau newydd i arbed y coleg.
"Mae adrannau wedi cael eu tynnu o’r coleg, yn enwedig yr adran Cymraeg, mewn ardal allai di ‘weud yw un o’r ardaloedd mwy Cymreigaidd yng Nghymru."
Ychwanegodd: "Ni jyst angen iddyn nhw gymryd bach o bwyll, dechrau siarad gyda phobl a dod ‘nol a chynllun i gadw’r Coleg i fynd.
"O ran y siaradwyr Cymraeg, mae’r Llywodraeth am gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050, a wedyn mae rhywle mor bwysig â Llambed gyda dros 200 mlynedd o hanes yn cael ei gau. Chi ddim yn mynd i gael myfyrwyr i fynd i golegau os nad oes adran gyda nhw i addysgu.""