'Nadolig yn gyfnod arbennig' ar ôl i fachgen 11 oed bron â marw
'Nadolig yn gyfnod arbennig' ar ôl i fachgen 11 oed bron â marw
Mae teulu o dde Cymru yn dweud bod "pob Nadolig yn arbennig" ar ôl i'w mab 11 oed bron â marw wedi iddo lithro oddi ar ddibyn wyth troedfedd o uchder gan anafu ei ben.
Ym mis Hydref 2022 roedd Ioan Watts o Fedwas yng Nghaerffili yn chwarae ar ei sgwter gyda'i frawd yn y sied ar ei ffarm cyn mynd i'r ysgol.
Llithrodd a disgynnodd wyth troedfedd ar ei ben. Rhedodd ei fam Lydia i'w weld pan glywodd ef yn crio.
"Roeddwn i'n gallu gweld yn syth bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i Ioan," meddai wrth Newyddion S4C.
"Doeddwn i ddim yn gwybod beth yn union digwyddodd, ond roeddwn i'n gallu gweld yn syth roedd e'n ofnadwy.
"Roedd e'n chwydu a chael ffit, roedd e mor ofnus."
Ffoniodd ei gŵr, Richard 999 ac roedd ambiwlans awyr wedi cyrraedd Fferm Pen y Waun o fewn wyth munud.
Wrth aros am yr ambiwlans awyr roedd Lydia yn dilyn cyfarwyddiadau'r gweithiwr 999 ac yn ceisio gwneud bob dim roedd hi'n gallu i achub bywyd ei mab.
"Dwi'n meddwl pan fod rhywbeth fel hyn yn digwydd, roeddwn i jyst yn gwneud beth oedd y bobl ar y ffôn yn dweud wrthyf am wneud," meddai.
"Ti'n mynd mewn i survival mode am gyfnod."
Ar ôl awr o driniaeth ar y ffarm cafodd Ioan ei gludo i'r ysbyty a'i roi mewn coma.
Dywedodd y doctoriaid wrth Richard a Lydia i ddisgwyl y gwaethaf, ac am rai dyddiau doedd dim sicrwydd os fyddai Ioan yn codi o'r coma.
Cafodd llawdriniaeth ar ei benglog, ac yn araf bach fe ddechreuodd wella.
'Arbennig'
Ymhen tair wythnos roedd wedi dechrau symud, ac ar ôl tri mis yn yr ysbyty a dysgu i gerdded eto, cafodd ei ryddhau er mwyn treulio diwrnod Nadolig gyda'i deulu.
Roedd y diwrnod hwnnw yn arbennig i'r teulu ac mae pob Nadolig ers 2022 wedi bod yn gyfnod i Lydia, Richard ac Ioan fod yn ddiolchgar.
"Oherwydd amseru'r ddamwain, diwrnod Nadolig oedd y targed i Ioan. Felly roedd e'n arbennig iawn, ac roedd Ioan wedi cael cyfle i osod y goeden gyda'i frawd," meddai ei fam.
Ychwanegodd Ioan: "Mae'r Nadolig yn golygu llawer i mi oherwydd hwnna oedd un o'r diwrnodau cyntaf roeddwn i adref ar ôl y ddamwain.
"Mae'n gyfnod i fod yn ddiolchgar bod fi'n fyw ac yn anadlu."
Bwriad Ioan y Nadolig hwn yw annog pobl i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, oedd wedi achub ei fywyd.
Mae eisoes wedi cerdded fyny Pen y Fan gyda Jez James, y gweithiwr ambiwlans awyr oedd wedi helpu achub ei fywyd.
Dywedodd Mr James mai gweld Ioan nawr yw'r anrheg orau.
"Fel rhan o’n swydd, rydyn ni’n wynebu sefyllfaoedd ofnadwy bob dydd, ond mae gen i fab yr un oedran ag Ioan ac mae’r alwad yma wedi aros gyda mi," meddai.
"Roedd Ioan yn un o’r plant mwyaf sâl i mi ddod ar ei draws erioed, ac er ein bod ni’n gwybod ein bod ni’n rhoi’r cyfle gorau posib iddo oroesi, doedden ni ddim yn siŵr beth fyddai’r canlyniad.
"I'w weld yn awr, creu atgofion yw'r anrheg fwyaf y gallem ni fel meddygon eu derbyn."