Caerffili: Hwb i brosiect sy'n rhoi teganau ail-law i bobl mewn angen
Mae prosiect yng Nghaerffili sy'n ail-ddefnyddio ac yn rhoi teganau ail-law i bobl mewn angen wedi derbyn hwb ariannol i barhau â'r gwaith.
Derbyniodd ToyBox Project CIC ym Medwas dros £60,000 gan y Loteri Genedlaethol fel rhan o'u Cronfa Gymunedol.
Mae ToyBox yn un o 245 o brosiectau ledled Cymru sydd yn derbyn yr arian.
Yn 2023 derbyniodd dros 7,000 o blant ar draws de Cymru deganau drwy'r prosiect, sydd yn helpu atal teganau rhag mynd i safleoedd tirlenwi a'u rhoi yn nwylo'r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Gwirfoddolwyr sydd yn rhedeg y cwmni, ac mae eu sylfaenydd James Morgan yn dweud bod rhieni yn ddiolchgar iawn am eu gwaith.
"Rydyn ni'n gweithredu drwy gydol y flwyddyn ond mae'r galw yn dyblu adeg y Nadolig.
"Rydyn ni'n jyglo popeth - rydyn ni ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i ddarparu teganau i 1000 o blant ar gyfer y Nadolig hwn yn unig."
Penderfynodd Mr Morgan gychwyn y prosiect ar ôl clywed am amgylchiadau teulu o gleifion yn y feddygfa y mae'n ei rheoli.
"Roedd hi'n fam sengl, gyda phlentyn pedair oed, a'r unig deganau oedd ganddyn nhw oedd can o Coke gyda reis yn y gwaelod, a phêl-droed fflat," meddai.
"Edrychais ar fy meibion ifanc, a oedd yn mynd trwy llwyth o deganau, o'i gymharu â'r cleifion hyn oedd heb unrhyw beth. Ac roedd fy ngwraig a minnau'n teimlo bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth."
Y llynedd fe wnaeth dros 60 o ysgolion gydweithio â'r prosiect i helpu dosbarthu teganau a'u hail-ddefnyddio mewn gwersi.
Penderfynodd Louise Monico, sydd yn athrawes yn Ysgol Gymraeg Penalltau i wirfoddoli gyda'r prosiect ar ôl ymweld â Toybox i gael teganau i'w disgyblion.
"Fe ddes i yma ar gyfer yr ysgol, oherwydd roedd gennym ni gymaint o blant o deuluoedd incwm isel, a hefyd ar gyfer ein dosbarth anghenion dysgu ychwanegol, oherwydd mae teganau yma sy'n hollbwysig iddyn nhw," meddai.
"Ond cafodd ToyboxProject gymaint o argraff arnaf i o ran faint y maen nhw’n helpu pobl, a phenderfynais fy mod i eisiau bod yn rhan ohono."