Cwm Taf: 'Cadwch draw o adrannau brys ysbytai os nad yw'n argyfwng'
Mae bwrdd iechyd yn y de wedi galw ar bobl i beidio mynd i adrannau brys tri ysbyty oni bai bod argyfwng.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod yr adrannau brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru yn "eithriadol o brysur" ddydd Iau.
Ychwanegodd y bwrdd iechyd eu bod yn blaenoriaethu pobl sydd yn "sâl iawn sydd angen gofal brys" ond bod llawer o bobl â phroblemau y gall "gwasnaethau eraill GIG helpu eu trin" hefyd yn bresennol yn yr adrannau brys.
Mae pobl yn cael eu hannog i fynd ar wefan y bwrdd iechyd er mwyn cael mynediad at wasanaethau a all helpu gyda phroblemau di-frys.
Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn annog y cyhoedd i ddefnyddio adnodd gwiriwr symptomau GIG 111 Cymru am gyngor.
Ond maent yn pwysleisio y dylid ffonio 999 neu fynd i'r adran argyfwng ar unwaith os oes gan unrhyw un symptomau strôc, wedi colli llawer o waed neu wedi cael trawma mawr.