Dyn yn pledio'n ddieuog i lofruddio mam a'i dwy ferch mewn ymosodiad bwa croes
Mae dyn 26 oed wedi pledio’n ddieuog i lofruddio gwraig sylwebydd rasio'r BBC a dwy o’u merched, ac mae'n wynebu cyhuddiad pellach o dreisio.
Mae Kyle Clifford wedi’i gyhuddo o drywanu Carol Hunt, gwraig John Hunt, i farwolaeth a saethu Louise, 25, a Hannah Hunt, 28, yn farw gyda bwa croes yng nghartref eu teulu yn Bushey, Sir Hertford ar 9 Gorffennaf.
Clywodd Llys y Goron Caergrawnt fod y diffynnydd hefyd wedi'i gyhuddo o dreisio ar ôl i'r cyhuddiad gael ei ychwanegu at y cyhuddiadau yn ei erbyn ddydd Iau.
Mae Clifford, o Enfield, gogledd Llundain, wedi’i gyhuddo ymhellach o un cyhuddiad o garcharu ar gam a dau gyhuddiad o fod ag arfau bygythiol yn ei feddiant – sef bwa croes a chyllell cigydd 10 modfedd.
Fe wnaeth y diffynnydd, a wnaeth ymddangos trwy gyswllt fideo o Garchar Belmarsh, bledio’n ddieuog i’r holl gyhuddiadau ac eithrio’r cyfrif newydd o dreisio, nad oes angen iddo wneud ple eto amdano.
Clywodd gwrandawiad llys blaenorol fod Louise wedi ei chanfod yn gaeth pan ddaeth swyddogion i'r eiddo.