Lloegr 'yn edrych ar waharddiad taro plant Cymru' ar ôl marwolaeth Sara Sharif
Mae Lloegr "yn ystyried dilyn gwaharddiad taro plant Cymru" ar ôl marwolaeth y ferch fach 10 oed Sara Sharif.
Bu farw Sara ar 8 Awst y llynedd ac roedd mwy na 25 o’i hesgyrn wedi torri.
Cafodd ei thad a'i llysfam eu dedfrydu i garchar am oes ddydd Mercher.
Roedd Sara wedi dioddef llosgiadau a brathiadau dynol yn ystod cyfnod o gam-drin a oedd wedi ymestyn dros ddwy flynedd o leiaf.
Yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Iau dywedodd y Farwnes Anderson o'r Blaid Lafur, bod Llywodraeth y DU yn "edrych yn fanwl ar Gymru."
Ers 21 Mawrth 2022 yng Nghymru mae pob math o gosbi corfforol i blant, fel taro ac ysgwyd yn anghyfreithlon.
Daw ei sylwadau wedi i'r Farwnes Walmsley o'r Democratiaid Rhyddfrydol ddadlau bod achos Sara Sharif yn dangos "angen brys" i wahardd pob math o drais yn erbyn plant, gan gynnwys eu taro.
Dywedodd y Farwnes Anderson: “O ran yr hyn yr ydym yn ei wneud, nid yw’r Llywodraeth hon yn goddef trais na cham-drin plant o unrhyw fath ac mae cyfreithiau mewn lle i amddiffyn plant yn erbyn hyn.
“Rydym yn edrych yn fanwl ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru a’r Alban a byddwn yn parhau i adeiladu ein sylfaen ar gyfer tystiolaeth, ond nid oes gennym unrhyw gynlluniau i gyflwyno deddf ar gyfer taro yn benodol ar hyn o bryd.
“Rydym am ystyried tystiolaeth bellach yn ofalus cyn penderfynu a oes angen newid y gyfraith.”
Yn ôl Deddf Plant 2004 y DU, mae’n anghyfreithlon taro plentyn, ac eithrio lle mae’n “gosb resymol”, ac mae hyn yn cael ei farnu fesul achos.