Tasg 'ddigon heriol' i Trystan ac Emma wrth drefnu dwy briodas yng Nghymru a Sweden
Mae Emma Walford a Trystan Ellis-Morris wedi wynebu her ychwanegol wrth drefnu nid un ond dwy briodas fel rhan o raglen arbennig Priodas Pymtheg Mil.
Penderfynodd y pâr buddugol “briodi ddwywaith” ar ôl ennill y £15,000 a hynny yng Nghymru a Sweden.
Bydd rhifyn arbennig o’r gyfres Priodas Pum Mil yn cael ei ddangos ar S4C ar ddydd Nadolig, gydag enw newydd sy’n adlewyrchu’r ffaith bod y gyllideb wedi treblu.
Y pâr yng nghanol y dathliad y tro yma yw Aled Johnson o Sir Benfro a Malin Gustafsson o Sweden.
Penderfynodd y pâr, a wnaeth gyfarfod yn 2008 a chael dau o blant, Owain a Gwennan, briodi nid unwaith, ond ddwywaith, yn y ddwy wlad enedigol er mwyn i’r ddau deulu allu cymryd rhan.
Dywedodd Aled: "Mae cwpl fel arfer yn priodi o flaen teulu a ffrindiau, wel mae ein teuluoedd ni yn Sweden a Sir Benfro felly ro’dd hi ond yn iawn i ni briodi yn y ddau le.
“Mae'r rhaglen hon wedi caniatáu i hynny ddigwydd ac rydym yn hapus iawn gyda'r ffordd y gweithiodd y cyfan mas.
"Dyw fy nhad 87 oed ddim erioed wedi hedfan, dyw e heb gael pasbort erioed, felly doedd dim cwestiwn fod y briodas swyddogol i ddigwydd yng nghapel Ebeneser, Eglwyswrw a gwasanaeth bendithio yn eglwys deuluol Malin."
‘Dim gor-wario’
Er gwaetha’r gyllideb o £15,000 i’w wario dywedodd y cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis-Morris eu bod nhw wedi wynebu her ychwanegol wrth drefnu dwy briodas.
Roedd rhaid deall traddodiadau Sweden, o'r sawna i'r amrywiaeth o bysgod i ddewis ohonynt ar gyfer y wledd briodas.
Dywedodd Emma: "Fel pe na bai cynllunio dwy briodas mewn dwy wlad wahanol yn ddigon heriol, roedden ni'n wynebu'r cymhlethdod ychwanegol trwy geisio deall y kronor Swedaidd.
"Gyda chyfanswm y pot bellach yn £15,000 anhygoel (treblu'r swm arferol), roedd angen i ni geisio peidio â bod yn rhy gyffrous amdano.
“O leiaf fe gawson ni help y ffrindiau a'r teulu o Gymru a theulu Malin o Sweden felly wnaethon ni ddim gor-wario a chael ein hunain i fewn i drwbwl!"
Yng Nghymru, mae'r dathliadau'r un mor hyfryd, ond gyda gogwydd mwy Cymreig.
Mae tad Aled sydd yn 87 oed, nad oedd wedi gallu teithio i Sweden oherwydd nad oes ganddo basbort, yn rhan hanfodol o'r briodas Gymreig ac mae’n cyfnewid ei esgidiau dŵr am bâr o’i esgidiau Sul gorau.
Mae yna hefyd ymddangosiad arbennig yn y briodas gydag aelod o’r capel, y canwr-gyfansoddwr enwog Cleif Harpwood, yn canu cân serch o’i gyfansoddiad ei hun.
Bydd y rhaglen yn cael ei dangos am 20:00 ar Ddydd Nadolig ar S4C.