Newyddion S4C

Y Gymraes ‘ysbrydoledig’ sy’n rhedeg hanner marathon fore 'Dolig

Y Gymraes ‘ysbrydoledig’ sy’n rhedeg hanner marathon fore 'Dolig

Cyn agor ei hanrhegion a pharatoi’r twrci, fe fydd un Gymraes ‘ysbrydoledig’ yn dechrau ei diwrnod Nadolig yn wahanol iawn i'r mwyafrif - drwy redeg hanner marathon.

Toc wedi 4 o’r gloch y bore, fe fydd Helen Ryvar, mam i dri o Lai ger Wrecsam, yn rhoi’r esgidiau rhedeg a’r dortsh pen ymlaen cyn troedio 13.1 milltir yn nhywyllwch yr oriau mân.

Hi sy'n dal y record y byd Guinness am redeg hanner marathon bob dydd am y nifer fwyaf o ddyddiau yn olynol.

Ar fore Nadolig eleni, fe fydd yn mentro ar ei 970ain hanner marathon yn olynol.

“Dwi’n rili edrych ymlaen at gael mynd allan ar fore Nadolig, pan does na neb o gwmpas. Pan ‘da chi wedi bod yn wneud hyn ers tair blynedd, mae’n dod yn rhan o’ch routine.

Image
Helen Ryvar
Mae Helen Ryvar yn rhedeg hanner marathon bob dydd, ac fel arfer am 4 o'r gloch y bore

“Mae’n rhywbeth dwi’n mwynhau gallu gwneud, cael bach o awyr iach cyn mynd yn ôl adref i weld y plant a dechrau fy Nadolig.

“Ac fe ga’i fwynhau fy nghinio ychydig bach yn fwy yn gwybod fy mod i wedi gweithio amdano fo.”

Calendr adfent 'gwahanol'

Nod Helen, sy’n 44 oed, yw cyrraedd 1,000 o ddiwrnodau o redeg hanner marathon yn ddi-dor.

Wedi bron i dair blynedd o’r arferiad, mae Helen wedi rhedeg mewn pob math o amodau mewn amryw o wledydd, gan gynnwys America, Twrci, Sbaen, Yr Iseldiroedd a'r anialwch yng Ngwlad yr Iorddonen.

Gyda'r llinell derfyn bellach mewn golwg, mae rhif 1,000 wedi ei threfnu ar gyfer 24 Ionawr.

“Mae fy nghalendr Adfent yn edrych ychydig bach yn wahanol i’r rhan fwyaf o bobl oherwydd mae’n mynd ymlaen am fis ar ôl y Dolig – dyna pryd dwi’n gobeithio cyrraedd y mil.”

Nid gosod record oedd ar ei meddwl wrth iddi ddechrau rhedeg hanner marathonau dyddiol. Ond dyna y llwyddodd hi i’w wneud yn ystod y cyfnod clo yn 2021, wrth gyflawni 111 o hanner farathonau yn olynol.

Image
Helen a'i phlant
Helen gyda'i phlant, Persia, Marcus ac India

Marwolaeth ei chyn ŵr, ar drothwy’r cyfnod clo cyntaf, oedd yr hyn a wnaeth ei hysgogi i ddechrau rhedeg unwaith eto.

“Cyn y cyfnod clo, ges i’r newyddion hynod o drist bod fy nghyn ŵr wedi marw. 

"Roedd ganddon ni berthynas eithaf trawmatig a thymhestlog. Roedd wedi bod yn fy gaslightio ers blwyddyn yn ystod y briodas, ond erbyn y cyfnod clo, roedden ni wedi ysgaru ac yn byw bywydau ar wahân.

“Yr wythnos pan gefais y newyddion, fe ddechreuodd y cyfnod clo a nes i feddwl y byddwn i unai yn bwyta neu’n yfed fy hun yn wirion, yn gaeth i’r tŷ. 

"Roedd rhaid i mi ddweud wrth fy nhri o blant ifanc nad oedd eu tad bellach gyda ni. Beth ydw i am wneud?

“A dyna pan benderfynais i na fyswn i yn aros yn y tŷ, ond mynd allan a dechrau rhedeg eto.

“Nes i ddechrau mwynhau’n syth a sylweddolais fy mod i’n gallu rhedeg yn gryf, felly nes i just gario ymlaen, heb unrhyw darged mewn meddwl.

“Doedd gen i ddim clem fod yna record yn bodoli, ond yn y diwedd, fe glywais i mai 75 oedd y record, a nes i gyrraedd 111.”

'Ail-adeiladu'

Ar ôl cyfnod o fyw gydag iselder a gorbryder, mae rhedeg wedi ei helpu i “ail-adeiladu”.

“Mae’r rhediad yma yn lot fwy na gosod record y byd Guinness. Mae o am gysylltu hefo pobol, rhannu straeon a gwahodd pobl i ddod hefo fi.

“Mae rhedeg wedi dod a fi’n agosach at bobl sy’n licio bod tu allan yn yr awyr agored, yn agos i natur. 

"Ac yn ara’ deg, dwi wedi adeiladu fy iechyd meddwl i le rŵan, lle dwi’n teimlo’n grêt ac eisiau rhannu fy stori i gyda phobl eraill.

Image
Hilde a Helen
Helen yn cael cwmni'r rhedwraig Hilde Dosogne o'r Iseldiroedd, sydd yn rhedeg marathon bob dydd yn 2024

“Dwi’n meddwl y gallwn ni gymryd lot o bwysau oddi ar yr NHS os bydd pobol yn mynd allan ac ymarfer corff bob dydd. 

"Does dim rhaid rhedeg, just gwneud unrhyw beth. Dwi wedi dechrau grŵp ar Facebook, ac yn ysgogi pobol i ymarfer corff am hanner awr bob dydd, a gwneud unrhyw beth maen nhw eisiau, nid just rhedeg.”

Mae dros 600 o aelodau o amryw wledydd yn perthyn i’r grŵp, Streak with Helen bellach. 

Ac er ei bod yn rhedeg ar ei phen ei hun gan amlaf, mae yna griw o ffrindiau ffyddlon sydd yn ymuno â hi yn rheolaidd.

'Anhygoel'

Dywedodd un ffrind, Dan Lloyd: “Dwi wedi rhedeg ryw 40 i 50 o weithiau efo Helen erbyn hyn, am 4 o’r gloch y bore. Mae’n amser da i redeg, does neb o gwmpas, dim traffig.

Image
Helen a Dan
Helen â'i ffrind, Dan Lloyd

“Ond 4 o’r gloch bob bore? Dim diolch! Mae unwaith yr wythnos yn ddigon anodd. I neud hynny bob bore, mae’n anhygoel.

“Mae hi’n fam sengl, mae hi’n codi, rhedeg a mynd i gwaith. Os da chi eisiau cyflawni rhywbeth, ewch allan a gwneud o. Mae hi’n profi hynny bob dydd. 

"Mae hi’n ysbrydoledig i ddeud y gwir.”

Ychwanega Helen: “Dwi just wrth fy modd efo pa mor syml ydy’r holl beth. Da chi’n rhoi’ch sgidiau ymlaen ac i ffwrdd a chi. Lle bynnag ydach chi yn y byd, dim ots faint o’r gloch.

“Mi fyswn i ar goll hebddo. Mae o wedi rhoi persbectif hollol newydd i mi o be sy’n bosib mewn 24 awr. 

"Dwi ddim isho fo orffen i fod yn onest, ond hyd yn oed ar ôl y streak, mi fydda i dal i redeg.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.