Cadarnhau perchnogion newydd i glwb pêl-droed Everton
Mae The Friedkin Group (TFG) wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cymryd dros yr awenau yng nghlwb pêl-droed Everton.
Daw hyn â chyfnod Farhad Moshiri i ben ym Mharc Goodison.
Fe gytunodd TFG i brynu cyfranddaliad Moshiri o 94.1% yn y clwb.
Mae TFG, sydd hefyd yn berchen ar Roma yn Serie A yn yr Eidal, yn cael eu harwain gan y biliwnydd Americanaidd Dan Friedkin.
Amcangyfrifir bod gan Friedkin, a brynodd Roma yn 2020, werth o $6.1bn (£4.8bn).
Dywedodd y cadeirydd gweithredol newydd Marc Watts: “Mae heddiw yn achlysur pwysig a balch i’r Friedkin Group wrth i ni ddod yn geidwaid y clwb pêl-droed eiconig hwn.
"Rydym wedi ymrwymo i arwain Everton i gyfnod newydd cyffrous ar y cae ac oddi arno. Mae darparu sefydlogrwydd ariannol uniongyrchol i'r Clwb wedi bod yn flaenoriaeth allweddol, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyflawni hyn.
“Er y bydd adfer Everton i’w le haeddiannol yn nhabl yr Uwch Gynghrair yn cymryd amser, heddiw yw’r cam cyntaf ar y daith honno.”