Newyddion S4C

Busnes o Gaernarfon yn ennill bwyty Indiaidd gorau Cymru

Heno

Busnes o Gaernarfon yn ennill bwyty Indiaidd gorau Cymru

Mae busnes o Wynedd wedi cipio'r wobr am y Bwyty Indiaidd gorau yng Nghymru eleni.

Bwyty Caernarfon Tandoori ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Gwobrau Bwyd Asiaidd 2024. 

Md Mustakin Raza a'i deulu sydd yn rhedeg y busnes yng nghanol tref Caernarfon.

Dywedodd Mahima Raza, sy'n gweini yn y bwyty, mai ei hoff blât yw'r cyri railway gyda chig oen.

"Mae'r blas a'r sbeis o India a'r chili poeth 'na sy'n neud y cyri," meddai ar raglen Heno S4C nos Fercher.

"Os fyswn i'n mynd allan i India, fyswn i'n dewis hwnna."

Mae'r cwsmeriaid yn cytuno gyda dyfarniad y Gwobrau Bwyd Asiaidd.

"Mae'r bwyty yma bob amser yn rhoi croeso, yn rhoi cynhesrwydd ac yn rhoi bwyd arbennig o dda," meddai un cwsmer.

"Mae'r gwasanaeth yn Gymraeg, ond ti'n gallu profi bwydydd gwahanol.

"Ac mae'n hyfryd cael bwyd wedi'i wneud o fy mlaen - a chroeso Cymreig Caernarfon!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.