Rhybuddion am lifogydd yn dilyn glaw trwm dros nos
Mae 'na rybuddion am lifogydd mewn grym ar draws Cymru yn dilyn glaw trwm nos Fercher.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd coch am lifogydd ar gyfer Afon Llwchwr ger Rhydaman a Llandybïe.
Mae'r corff hefyd wedi cyhoeddi 31 o rybuddion oren ar draws y wlad, gan effeithio ar ardaloedd arfordiol yn bennaf.
Daw'r rhybuddion yn dilyn glaw trwm nos Fercher.
Pythefnos yn ôl roedd Storm Darragh wedi achosi llifogydd a dinistr ar draws Cymru.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae rhagor o dywydd ansefydlog ar y gorwel dros y dyddiau nesaf.