Gwasanaethau gofal i bobl hŷn: 'Angen newid agweddau'
Gwasanaethau gofal i bobl hŷn: 'Angen newid agweddau'
Mae angen newid agweddau a gweithio mewn ffordd ‘arloesol’ os am leihau'r nifer o bobl sy’n dibynnu ar y system ofal ‘draddodiadol’, yn ôl Cyngor Gwynedd.
Yn ôl adroddiad i sefyllfa'r sector yng Ngwynedd, dyw’r ddarpariaeth ddim yn gynaladwy gyda disgwyl i bobl wynebu oedi sylweddol oni bai bod newidiadau i’r system.
Yn ôl y Cyngor, maen nhw eisiau symud tuag at gynlluniau ‘fwy ataliol’ sy’n galluogi i bobl hŷn aros yn eu cartrefi a’u cymunedau cyn hired a bod modd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru y flaenoriaeth ydi “sicrhau gwasanaethau o ansawdd” a “chydbwysedd rhwng anghenion uniongyrchol ac anghenion hirdymor”.
Fel mewn sawl sir arall, mae Cyngor Gwynedd yn ceisio darparu mwy o gyllid a blaenoriaethu cynlluniau cymunedol er mwyn helpu pobl yn eu cymunedau.
Un enghraifft o hynny ydi clybiau i gadw pobl hŷn neu bobl sydd wedi derbyn anaf, yn ystwyth.
Mae’n ffordd o geisio cadw pobl hŷn rhag fynd yn gaeth i’w tai ac yn actif.
“Dwi wrth fy modd yma”, meddai Mary Davies.
“Dwi’n teimlo’n well ar ôl mynd adra bob tro... oni’n teimlo fel bo fi angen o.. ystwytho ‘lly”.
Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfannau Byw’n Iach y Sir, cynlluniau fel hyn sy’n cynnig cefnogaeth ac ymarfer corff i bobl hŷn ydi’r ffordd ymlaen i leddfu’r pwysau ar y system gofal.
“Dwi’n meddwl bod 'na gyfle anhygoel inni fod yn rhan o’r datrysiad”, meddai.
"Mae’r hyn da ni’n gallu 'neud ydi rhoi'r hyder, y wybodaeth a sgiliau i bobl i aros yn actif ac yn annibynnol am yn hirach”.
“A drwy neud hynny fe allwn ni gymryd pwysau oddi ar y gwasanaethau iechyd a gofal”.
Gyda thros 25,000 o bobl yng Ngwynedd dros 65 oed a thraean o rheini dros 80 oed, rhybuddio mae’r cyngor nad yw'r sefyllfa ar hyn o bryd yn gynaladwy gydag adroddiad 'Llechen Len' yn rhybuddio bod yn rhaid i’r system ofal draddodiadol newid.
“Da ni eisiau bod yn meddwl am waith ataliol”, meddai’r Cynghorydd Dilwyn Morgan, deilydd Portffolio Oedolion Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd.
“Mae na bob math o dechnoleg ar gael felly ehangu sut da ni’n edrych ar ofal sydd ei angen”.
Ond nid dim ond cadw’r corff yn heini sydd ei angen.
Mae’r cyngor yn cydnabod mai hanner y frwydr ydi cadw’r meddwl yn ystwyth a rhoi cefnogaeth i bobl hŷn gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd.
Yng Nghaernarfon, yng Nghanolfan Porthi Dre mae ‘na glwb i bobl hŷn bob wythnos ac mae'n le i gynnal sgwrs, cael pryd o fwyd cynnes a chymdeithasu.
Yn ôl Huw Rowlands sy’n dod i’r sesiynau bob wythnos maen nhw’n help enfawr.
“Mae’r capel ‘di cau, siop y pentre a pethau fela ond ‘da chi’n dod i rhywle fel hyn a ‘da chi’n dod i nabod pobl”, meddai.
“Da chi’n edrych mlaen amdano fo- fyddai yn.
“Ac mae na fwyd da yma!”
Yr her fwyaf ydi sicrhau bod ni’n rhoi’r cyfle i bobl i gal y bywyd da yn eu cymunedau”, meddai Meilys Heulfryn Smith, Pennaeth Cefnogi Cymunedau iechyd a llesiant Cyngor Gwynedd.
“Y nod ydi bod neb yn gorfod cyrraedd y pwynt lle mae nhw’n gorfod derbyn gwasanaethau na fydde ni’n dymuno eu cael oni bai bod ni wir eu hangen."
Gyda’r gwasanaeth gofal ‘dan bwysau digynsail a Chyngor Gwynedd, fel sawl awdurdod arall yn rhybuddio y gallai bobl wynebu peidio derbyn gwasanaethau oni bai bod newid, mae’r pwyslais yn amlwg yn newid.
Mae’r cyngor am weld mwy o gefnogaeth yn cael ei roi i fesurau ataliol a phrosiectau cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth mawr ar lawr gwlad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni'n gwerthfawrogi’r gweithlu gofal cymdeithasol eithriadol sydd gennym, a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu i bobl Cymru.
“Ein nod hirdymor yw creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru. Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau pwysig fel sefydlu'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth a fydd yn gweithio gyda'r sector ac yn rhoi llais cryfach iddo.
“Ein ffocws yw sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu'n barhaus, gan sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion uniongyrchol ac anghenion hirdymor ledled Cymru.