Newyddion S4C

'Perygl o golli effaith' wrth gyhoeddi rhybuddion llifogydd yn rhy aml

Cyfoeth Naturiol Cymru / ITV

Fe allai fod perygl o golli effaith os yw rhybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi yn rhy aml, yn ôl un o uwch swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r corff wedi cael ei feirniadu gan rai am beidio rhoi rhybudd yn ddigon cynnar yn y cyfnod cyn Storm Bert, a wnaeth achosi dinistr mewn rhannau o Gymru fis diwethaf.

Cafodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd CNC, ei holi gan Aelodau Seneddol Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, ynghyd ag arweinwyr y Swyddfa Dywydd a'r Ganolfan Rhagweld Llifogydd.

Image
CNC ITV2
Llun: Jamie Morris/ITV Wales

Dywedodd Mr Parr wrth y Pwyllgor Materion Cymreig bod y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion tywydd, tra bod CNC yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd.

"Yn ystod y stormydd hynny fe wnaethon ni gyhoeddi nifer fawr o rybuddion llifogydd ar draws rhannau helaeth o Gymru, ac mae'r negeseuon ynghylch a rhybuddion llifogydd yn bwysig, a bod cysondeb negeseuon yn bwysig.

"Rydym yn ymwybodol iawn o beidio gweiddi blaidd ('cry wolf') yn rhy aml a cholli'r neges. Felly byddai'n hawdd iawn cael trothwy is ar gyfer cyhoeddi rhybuddion, er enghraifft, ond gyda llawer llai o sicrwydd. Ac mae perygl gwirioneddol y bydd pobl yn dweud, 'wel, ni ddigwyddodd hynny, felly nid wyf yn ymddiried ynddo am y tro nesaf.'" meddai Mr Parr.

Wnaeth Mr Parr ychwanegu hefyd bod angen i'r neges fod yn gliriach bod rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb am weithredu ar rybuddion.

"Mae sefydliadau cyhoeddus yno i wasanaethu, ond mae angen i bobl gymryd rhywfaint o berchnogaeth bersonol hefyd.”

Image
CNC ITV3

Dywedodd Russell Turner, Pennaeth y Ganolfan Rhagweld Llifogydd, wrth yr Aelodau Seneddol bod llifogydd difrifol bellach "yn fwyfwy tebygol".

"Rydw i wedi bod yn rhan o ragolygon llifogydd ers 15 mlynedd ac mae'n ddi-baid…rydym ni wedi cael pum mlynedd prysur iawn.

"Mae'n anodd nodi'n union, ond rwy'n credu bod y rhain yn ddigwyddiadau sy'n fwyfwy tebygol ac yn gyfarwydd i lawer o gymunedau, yn anffodus," meddai Mr Turner.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.