‘Do’n i’m yn gwybod pwy oedd o!’: Profiad Noel Thomas o gwrdd ag Olly Murs
“Mi oedd ryw foi yn gofyn i mi am selfie.”
O gael ei dderbyn i'r Orsedd i'w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor, mae 2024 wedi bod yn flwyddyn fawr i Noel Thomas.
Ac ym mis Medi roedd y cyn is-bostfeistr a gafodd ei garcharu ar gam yn ystod sgandal Swyddfa’r Post allan o'i elfen - ar y carped coch yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol.
Fe gipiodd drama ITV Mr Bates vs The Post Office, oedd yn dilyn hanes cyn is-bostfeistri a gafodd eu herlyn ar gam, dair gwobr ar y noson.
Ond datgelodd Noel Thomas ar raglen Sgwrs Dan y Lloer ar S4C fod y profiad wedi bod yn ormod iddo braidd.
Doedd o’n nabod neb yno, meddai, gan gynnwys un o sêr pop mwyaf y DU - a ofynnodd iddo am selfie.
“Hogyn o Sir Fôn - i fod yn onest o’n i allan ohoni’n lân,” meddai Noel Thomas.
“Doni’m yn nabod eu hanner nhw. Mi oedd rai eraill yn nabod nhw i gyd.
“Mi o’dd ryw foi yn gofyn i mi am selfie. A dyma fi’n dweud ‘yes’.
“A dyma [fy merch] Sian yn redag ata fi a dweud ‘Hei paid â gadael o fynd!’
“’Pwy dio,’ meddai fi. Ryw Olly Murs neu rywbeth! Do’n i’m yn gwybod pwy oedd o nag o’n?
“Wedyn ar ddiwedd y peth roedd ‘na barti mawr. Rargian, welis i’r fath siarad a miri yn fy nydd erioed.
“Ac fe ddaeth yr hen Ifan Huw Dafydd [yr actor a'i chwaraeodd ar y rhaglen deledu] a finna’ i eistedd mewn ryw gornel a potel neu ddau i’n hunain a gadael iddyn nhw gario ‘mlaen.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1821849165875302454
‘Dim gwell’
Dywedodd Noel Thomas bod cael ei urddo i’r Orsedd lawer mwy at ei ddant.
“Allan o bob peth y peth mwyaf pwysig i mi oedd cael fy anrhydeddu yn yr Eisteddfod,” meddai.
“Fel Cymro Cymraeg allwn i ddim cael un gwell. Nes i’m meddwl y byddai'r fath beth yn digwydd a dweud y gwir.
“Mae Bangor yn ail. Nes i ‘rioed feddwl sŵn i’n ganol pobl oedd yn fwy dawnus na fi a dweud y gwir.
“Ac fel hogyn cyffredin yn cael fy noctorate os liciwch chi!”
'Ffydd'
Fe gafodd Noel Thomas ei ddedfrydu i naw mis o garchar yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o’i gyfrifon.
Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post.
Yn y rhaglen, mae’n disgrifio’r profiad o fynd i garchar Walton:
“O’n i fod i fynd i Altcourse, carchar agored, ond yn anffodus doedd dim lle a mi landish i’n Walton - uffern ar y ddaear a bod yn onest. Fues i yna am wyth diwrnod, a ges i’n hel i Kirkham wrth ymyl Blackpool. Ond yn yr wyth diwrnod ‘na yn Walton, ro’n i’n gorfod cael fy nghau mewn bron drwy’r dydd.
“Ro’n i’n rhannu efo Ian - Sgowsar, a ‘ma’n rhaid i mi ddeud os ‘sw’n i’n cyfarfod Ian rŵan, faswn i’n falch iawn o ysgwyd ei law o, achos mi gadwodd o fi fynd. A chwarae teg iddo, mi ro’th fi ben ffordd. Mi fuodd o’n gefn mawr i mi yn y dechrau tywyll yna."
Mae Noel yn dweud i’r profiad o fynd i garchar adael ei ôl arno am y tair blynedd wedi hynny:
“O’dd hi’n anodd iawn trio gwybod sut i ddelio efo pethau. Do’n i’m yn licio cau drws. O’n i’m yn licio cael fy nghau fewn. Lwcus mod i’n byw yn rhywle fel Sir Fôn; o’n i’n mynd allan a cerdded, a diflannu am dipyn o oriau; dyma ffor’ o’n i’n cael dros y peth.”
Cafodd ei euogfarn ei gwrthdroi yn 2021, ac mae Noel yn cofio’n ôl i’r diwrnod ‘anhygoel’ pan gafodd ei enw ei glirio, a daeth tro ar fyd.
“Dwi ‘di bod i fyny’r ystôl; i lawr yr ystôl, a diolch i’r nefoedd dan ni nôl bron iawn ar y top rŵan. Ma’n rhaid i mi ddiolch i ‘nheulu ac i fy ffydd.”
Bydd Sgwrs Dan y Lloer yn cael ei darlledu ar S4C am 20.00 ar ddydd Sul 29 Rhagfyr.