Newyddion S4C

Staff Cyngor Gwynedd yn absennol o'u gwaith am 10 diwrnod y flwyddyn oherwydd salwch

Cyngor Gwynedd

Mae aelodau o staff Cyngor Gwynedd yn absennol o'u gwaith am fwy na 10 diwrnod y flwyddyn ar gyfartaledd oherwydd salwch - a hynny ar gost o £5.7 miliwn y flwyddyn i'r awdurdod.

Mae'r ffigyrau ar gyfer 2023/4 yn gynnydd sylweddol ar y flwyddyn flaenorol, gyda staff ar gyfartaledd yn colli 2.72 diwrnod yn fwy o'u gwaith oherwydd salwch - 10.29 diwrnod y flwyddyn am bob aelod o staff.

 Cafodd 14,404 o ddyddiau gwaith (22.13%) eu colli oherwydd iselder, straen, a phroblemau iechyd meddwl. 

Roedd 51% o'r absenoldebau yn absenoldeb tymor hir.

Mewn arolwg o staff, dywedodd nifer o bobl eu bod dan bwysau gwaith gormodol, a bod angen amgylchedd gwaith gwell, gyda nifer o swyddfeydd yn hen.

Er mwyn ceisio gwella'r sefyllfa, mae'r cyngor wedi lansio Cynllun Llesiant Staff, fydd yn cael ei ddatblygu dros y pum mlynedd nesaf.

"Mae cael gweithlu sy’n iach, bodlon a gwydn yn ein galluogi i berfformio’n well, cyflawni mwy, addasu’n gyflymach i newid ac mae hynny’n hanfodol er mwyn rhoi’r gwasanaethau o’r radd flaenaf i bobl Gwynedd," meddai'r cyngor yn eu rhagymadrodd i'r cynllun. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.