Newyddion S4C

Ymosodiad Southport: Dyn yn pledio'n ddi-euog i lofruddio tair merch

Axel Rudakubana

Mae dyn 18 oed sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio tair merch fach yn Southport wedi pledio'n ddi-euog.

Mae Axel Rudakubana wedi ei gyhuddo o lofruddio Alice da Silva Aguiar, naw, Bebe King, chwech, ac Elsie Dot Stancombe, saith, mewn dosbarth dawnsio yn Southport ar 29 Gorffennaf eleni.

Fe gafodd pledion di-euog eu datgan ar ran Rudakubana wedi iddo beidio ag ateb yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Mercher.

Fe wnaeth ymddangos drwy gyswllt fideo o garchar HMP Belmarsh.

Mae hefyd wedi pledio'n ddi-euog i geisio llofruddio wyth o blant eraill, athrawes y dosbarth dawns, Leanne Lucas a'r dyn busnes John Hayes.

Mae disgwyl i achos llys ddechrau ar 20 Ionawr, gyda'r achos yn para rhwng pedair a chwe wythnos. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.