Cynllun i ddymchwel mast teledu hanesyddol gam yn nes
Mae cynlluniau i ddymchwel mast teledu hanesyddol ar Ynys Môn wedi symud gam yn nes.
Chwaraeodd mast Penmon ran pwysig yn natblygiad cynnar darlledu o Gymru, gan ddechrau darlledu ym 1937.
Roedd yn cael ei ystyried mor bwysig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel bod aelodau o'r "Anglesey Home Guard" yn ei warchod. O'r mast yma roedd gwasanaeth yr "Home Service" yn cael ei ddarlledu yn ystod y rhyfel.
Daeth y defnydd o'r mast, sy'n 76 medr o uchder, i ben yn 2021, ac mae perchnogion y safle, cwmni Arqiva, bellach eisiau ei ddymchwel, a'r adeilad brics bychan nesaf ato. Ond ni fydd y gwaith yn effeithio ar adeilad gwreiddiol y BBC gerllaw, sydd bellach yn dŷ preifat.
Mae Cyngor Ynys Môn wedi penderfynu nad oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel y mast, felly mae gan y cwmni yr hawl i symud ymlaen â'r gwaith.
Bydd y safle'n cael ei adfer i fod yn lastir