Ysbytai yn paratoi at drydded ton Covid-19

Ysbytai yn paratoi at drydded ton Covid-19
Mae Byrddau Iechyd Cymru yn paratoi wardiau ysbytai i dderbyn cleifion Covid-19 unwaith yn rhagor.
Mae’r paratoadau yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o Covid-19 yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl Dr Angharad Shaw o Brifysgol Aberystwyth dyma'r drydedd don Cymru.
Ond mae’r ystadegau diweddaraf yn awgrymu bod y cynllun brechu yn gostwng niferoedd y cleifion mewn ysbytai’n sylweddol.
Mae cynnydd a niferoedd y drydedd don - sy'n digwydd nawr yn rhyfeddol o debyg i’r ail don- ond mae 'na wahaniaeth sylfaenol – 68 claf aeth i'r ysbytai o'i gymharu â 328, ar yr un diwrnod, adeg yr ail don.
Y brechiad yw’r gwahaniaeth, yn ôl Dr Shaw: “Mae llai o bobl yn mynd i'r ysbytai yng Nghymru nag oedd yn y tonnau diwethaf. Wedi dweud hynny, mae'r nifer sydd yn mynd i'r ysbytai yn cynyddu hefyd.”
Mae’r gwahaniaeth i’w weld yn nifer y marwolaethau hefyd.
Mae nifer y marwolaethau yn parhau yn isel ar hyn o bryd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf, yn enwedig o’i gymharu â’r un adeg yn ystod yr ail don.
Serch hynny, mae byrddau iechyd Cymru yn paratoi i wahanu cleifion Covid-19, yn ôl Is-Lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon.
Dywedodd Dr Olwen Williams: “'Da ni'n gwybod bod y rhan fwya'r byrddau iechyd hefo rhyw fath o blan i mewn. Achos y peth diwethaf 'da ni angen ydi pobl dal Covid tra bod nhw yn yr ysbytai.”
Ond nid yw’r ffigurau yn ddigon i atal rhai o fewn y Gwasanaeth Iechyd rhag pryderu am y misoedd sydd i ddod.
Dywedodd Sandra Robinson Clark, Coleg Brenhinol y Nyrsys: "Mae o'n frawychus i ddeud y gwir. Mae'r modelau efo'r trydydd 'wave' fel maen nhw'n deud, mae'r ffigurau yn swnio'n reit realistig a pwy sa'n meddwl bod 'na gymaint o bobl ar hyd Prydain wedi colli eu bywydau.
"Mae'r ffigwr yn anhygoel yndydy, y cleifion sy' 'di marw hyd yn hyn. Felly 'ma beth sy' o'n blaenau ni yn bryderus iawn, ffordd mae pethau'n mynd."