Merch 14 oed wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Nhreffynnon
Mae merch 14 oed wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Nhreffynnon fore Mercher.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru dderbyn adroddiadau fod Honda Civic coch wedi gwrthdaro â merch 14 oed.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 08.00 ar Ffordd Holway, meddai'r llu.
Mae'r ferch wedi dioddef anafiadau difrifol a chafodd ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.
Bydd y ffordd yn parhau ar gau wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.
Mae'r Rhingyll Medwyn Williams o’r Uned Troseddau Ffyrdd yn apelio am dystion a gwybodaeth i'r gwrthdrawiad.
“Rwy’n annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd Ffordd Holway toc cyn 8.00 y bore yma ac a allai fod â lluniau camerâu cylch cyfyng i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl," meddai.
“Bydd y ffordd yn parhau ar gau am beth amser er mwyn galluogi swyddogion i gynnal eu hymchwiliad cychwynnol a hoffen ni ddiolch i’r gymuned leol ymlaen llaw am eu hamynedd.”
Gallai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ddyfynnu'r cyfeirnod Q189599.
Llun: Google