Newyddion S4C

Cyfweliad egsgliwsif: Dr Dewi Evans yn mynnu bod ei dystiolaeth yn gadarn yn achos Lucy Letby

Newyddion S4C

Cyfweliad egsgliwsif: Dr Dewi Evans yn mynnu bod ei dystiolaeth yn gadarn yn achos Lucy Letby

Mae prif dyst arbenigol yr achos yn erbyn Lucy Letby wedi mynnu bod ei dystiolaeth yn gadarn, gan ddweud ei fod yn synnu "cyn lleied" roedd e wedi newid ei feddwl yn ystod yr achos. 

Ar ol cael ei chanfod yn euog o lofruddio saith babi a cheisio llofruddio saith arall tra'n gweithio yn Ysbyty Countess of Chester, mae'r cyn-nyrs dan glo ar hyn o bryd ar ôl cael ei dedfrydu i 15 tariff gydol oes.

Ddoe, dywedodd tim cyfreithiol Letby eu bod yn galw ar y Llys Apel i adolygu ei holl euogfarnau, gan ddweud bod prif dyst yr erlyniad, y Cymro Dr Dewi Evans yn "annibynadwy" a'i fod wedi "newid ei feddwl am achos marwlaeth tri o'r babanod".

Mewn cyfweliad egsgliwsif gyda Newyddion S4C, mae Dr Evans wedi dweud bod y sylwadau yna yn "rhyfeddol, di-sail ac anghywir".

Dywedodd y cyn ymgynghorydd ysbyty mewn gofal plant mai'r unig newid mae e wedi ei gyflwyno ydy cadarnhau dyddiad marwolaeth babi C.

"Yn gynharach eleni, sylweddolais bod dryswch o gylch un dyddiad. Es i felly drwy'r dystiolaeth o'r dechrau i'r diwedd i gadarnhau beth oedd wedi digwydd."

"Wrth wneud hynny, ges i gadarnhad bod pryder oedd gen i nôl yn 2017 am pryd fu farw'r babi yn gywir. Ar y pwynt yna, doedd gen i ddim gwybodaeth o gwbl bod Lucy Letby ar y ward heb son am fod yn gofalu am y babi."

"Roedd pryder gen i - wrth gwrs, roedd angen mwy o dystiolaeth wedyn gan yr heddlu a thystion eraill i benderfynu beth oedd wedi digwydd."

Mae Dr Evans yn mynnu mai camgymeriad "syml" ar ran yr erlyniad oedd yn gyfrifol, ond nad yw hynny yn effeithio o gwbl ar y dystiolaeth wyddonol gyflwynwyd yn yr achos.

Gwadodd bod hynny'n creu unrhyw amheuaeth am euogrwydd Letby, gan ddweud ei bod hi'n naturiol i arbenigwr newid eu meddwl "wrth i dystiolaeth newid ac esblygu" a'i fod e wedi "synnu" at gyn lleied newidodd ei farn yn ystod yr achos.

Roedd Dr Evans wedi dweud yn flaenorol wrth raglen File on Four Radio 4 ei bod hi'n debygol i fabi C farw wedi i "gyfuniad o laeth ac aer" gael eu pwmpio i'w stumog, oedd yn wahanol i'r hyn ddywedodd yn y llys lle crybwyllwyd aer yn unig.

Wedi iddo ymddangos ar y rhaglen, dywedodd wrth y BBC ei fod wedi "adolygu yr amgylchiadau arweiniodd ar farwolaeth Babi C" a'i fod yn credu ei bod hi'n "fwy tebygol" mai chwistrellu aer i'r gwaed oedd achos "mwyaf tebygol" y farwolaeth, gan ddweud byddai naill neu'r llall yn "anaf clwyfol".

Mewn datganiad, dywedodd Mark McDonald KC, sydd yn amddiffyn Lucy Letby:

"Mae Dr Evans wedi ysgrifennu adroddiad newydd ar babi C, 12 mis ar ôl i Lucy Letby gael ei chanfod yn euog, plis all hwn gael ei ddatgelu i'r amddiffyniad. Mae dibynadwyedd unrhyw dyst arbenigol meddygol yn fater nawr i'r llys apel."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.