Newyddion S4C

Pen Llŷn: Dod ag aelodau ‘grŵp pop fenga’ Cymru’ yn ôl at ei gilydd

Gwesty Aduniad

Mae rhai o aelodau “grŵp pop fenga’ Cymru” a ffurfiodd yn y 60au wedi cael cyfle i ddod yn ôl at ei gilydd.

Yn ddim ond pump oed fe gafodd chwech o genod eu dewis i fod yn rhan o'r grŵp Cymru pan oedden nhw’n blant bach ym Mhen Llŷn.

Roedd aelodau’r band yn yr un dosbarth ysgol â’i gilydd yn Ysgol Gynradd Llanbedrog.

Teithiodd dau gyn-aelod, Sheena Williams a Sian Thomas, i ddarganfod mwy am hanes grŵp ‘Y Rhosynnau’ fel rhan o raglen Gwesty Aduniad S4C.

Wrth ddarganfod mwy o’r hanes fe wnaethon nhw hefyd gwrdd ag un cyn-aelod arall - a hefyd clywed gan y gyn-athrawes a ffurfiodd y grŵp. 

“Mae’n debyg mai ni oedd pop group fenga Cymru,” meddai Sheena Williams.

Wales’ Youngest Pop Group fel mae’n dweud yn headlines y papur newydd.

“Mi o’n i’n edrych ar y llunia ryw ddiwrnod ac yn meddwl, pam ni de? Pam y gweddill ohonon ni?

“Sud gafon ni ein dewis, dwi’m yn gwybod. Sgen i’m co’ o audition, na rywun yn gofyn os oedden ni isio bod mewn grŵp. 

“Na sud gafon ni ein dewis na dim byd, sgen i ddim syniad.

“Da ni’n dod yma i ŵrach gael atebion - oes 'na rywun yn gwybod?”

Image
Y Rhosynnod
Y Rhosynnod

‘Gola bach’

Fe fydd y cwestiynau rheini yn cael eu hateb ar y rhaglen - gan gynnwys cwrdd unwaith eto â'r athrawes a ffurfiodd y grŵp yn 1969, Mrs Williams.

Fel rhan o’r hel atgofion fe gafodd y ddwy hefyd y cyfle i wylio fideo o’u dyddiau yn y Rhosynnau - profiad emosiynol iawn i Sian Thomas.

“Roedd o’n ola’ bach mewn cyfnod bach caled iawn wrth sbïo nôl a dweud y gwir,” meddai hi.

“Farwodd fy nhad yn sydyn iawn yn 1970 yn 38 oed.

“Be sy’n braf erbyn heddiw ydi gwybod ei fod yn fyw ac o gwmpas i weld y grŵp pop. 

“Bod o wedi cael bod yn rhan ohona fo.”

Cyn ffarwelio â’r Gwesty Aduniad fe gafodd y ddwy gwrdd gyda chyn aelod arall, Ann Smith, oedd yn cofio dipyn mwy o’r hanes.

“Dwi’n cofio rhoi dwylo fyny pan oedden ni eisiau creu'r grŵp ‘ma. Isio chwarae gitâr oedden ni de," meddai.

“Yr athrawes nath ddewis ni. Roedden ni i gyd wedi gweld y gitars bach ‘ma, isio chwarae gitâr oedden ni de!”

Bydd Gwesty Aduniad ar S4C Nos Lun am 21.00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.