Cyhuddo dyn o yrru’n beryglus wedi marwolaethau dwy o Gymru
17/12/2024
Mae dyn wedi’i gyhuddo ar ôl gwrthdrawiad ar yr M4 a laddodd fam a merch o Gymru y llynedd.
Bu farw Cheryl Woods, 61, a’i merch Sarha Smith, 40, o Gaerffili, ar ôl y gwrthdrawiad pum cerbyd ar 20 Hydref, 2023.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cyffordd 17 ger Chippenham a chyffordd 18 ger Caerfaddon mewn amodau gwyntog a gwlyb yn ystod Storm Babet.
Mae Firas Zeineddine, 45, o Bluebell Drive, Keynsham ger Bryste, wedi’i gyhuddo o ddau achos o farwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Bydd yn ymddangos yn y llys yn ddiweddarach.