Newyddion S4C

Rhybudd am yr heriau yng Ngwynedd wrth i'r boblogaeth heneiddio

Newyddion S4C 17/12/2024

Rhybudd am yr heriau yng Ngwynedd wrth i'r boblogaeth heneiddio

Dydi darparu gofal cymdeithasol i bobl hŷn yng Ngwynedd “ddim yn hyfyw na’n gynaliadwy” yn ôl adroddiad newydd.

Mae adroddiad ‘Llechen Lan’ gan Gyngor Gwynedd wedi ei ddisgrifio fel un o'r gweithiau ymchwil mwyaf trylwyr i gyflwr y sector gofal yn y sir erioed. 

Mae’n rhagdybio ymhen ugain mlynedd y bydd y galw am ofal yn cynyddu 56% a’r nifer ar restrau aros yn codi tua chwe gwaith a hanner yn y sir. 

Yn ôl un gofalwraig, mae cyflogau isel yn dal i achosi pobl ifanc i beidio ag ystyried gofalu fel gyrfa. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y nod o hyd yw creu “Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru”. 

Tra bod yr heriau sy’n wynebu’r sector gofal ledled Cymru yn hawlio’r penawdau, mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y system ofal fydd yn bodoli ymhen ugain mlynedd heb unrhyw newid ac ymyrraeth. 

Un o’r heriau mwyaf yn ôl Cyngor Gwynedd yw dadboblogi a phoblogaeth yn heneiddio. 

Erbyn y flwyddyn 2043, mae’r cyngor yn rhagdybio y bydd oleiaf 5,000 o bobl yn fwy yn byw yng Ngwynedd sydd dros 65 oed.

Ond y disgwyl yw y bydd nifer y bobl oedran gwaith ond yn cynyddu oddeutu 1,000 yn yr un cyfnod. 

Mae’r cyfrifiad hefyd yn dangos bod Gwynedd wedi colli oddeutu 42 o bobl oed gwaith bob mis ers degawd - cyfanswm o 5,000 o bobl. 

“Un ffordd neu’r llall, ni fydd y boblogaeth oed gwaith yn tyfu ar yr un raddfa â’r twf tebygol yn y boblogaeth hŷn fydd angen gofal”, meddai’r adroddiad. 

“Nid oes adnoddau dynol nac adnoddau ariannol digonol i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i bobl hŷn yn Ngwynedd ar hyn o bryd.

“O’r herwydd, nid yw’r sefyllfa darparu gofal cymdeithasol i bobl hŷn yng Ngwynedd yn hyfyw nac yn gynaliadwy”.

Cyflogau gofalwyr 

Mae June Davies wedi bod yn darparu gofal yn y gymuned yn ardal Abersoch ers degawd. 

Er bod hi wrth ei bodd yn teithio o gwmpas yr ardal ac yn gofalu am bobl hŷn, mae’n dweud bod nifer o heriau sy’n atal bobl newydd rhag ymuno â'r sector. 

“Mae angen mwy o gyflog i ddenu mwy o ofalwyr i mewn”, meddai. 

“Ma’n job braf iawn… dwi’n mwynhau a 'sw'n i’n gobeithio sa' pobl eraill yn hefyd ond ma rhaid iddy nhw gael rhywbeth arall i dynnu nhw mewn”. 

“Gwell cyflog? Dwi’m yn gwybod”.

Yn 99 oed, mae’r Parchedig Cledwyn Griffith o Fynytho yn un o’r rhai sy’n derbyn gofal gan June ac yn ôl ei ferch, Nerys Smits, mae cymorth y gwasanaeth yn rhoi ‘tawelwch meddwl’. 

“Mae nhw’n cefnogi ni fel teulu ac yn cadw dad adra yn ei gynefin ei hun mor hir â sy’n bosib”, meddai. 

“Ond mae’r system angen buddsoddiad mawr ac mae nhw angen edrych ar y system yn gyffredinol a sut mae’r system yn gweithio o’r ysbyty i’r gymuned”. 

"Gobaith"

Mae’r Cynghorydd Dilwyn Morgan yn dweud fod yr adroddiad hefyd yn cynnig gobaith. 

“Da ni’n cael ein gwthio i feddwl am ofal mewn ffordd gwahanol”, meddai. 

“Beth da ni eisiau yn wirioneddol ydi cadw pobl adra cyn hired â sy’n bosib”. 

Er hynny, mae’n cydnabod bod her enfawr o ran staffio gan ddweud bod cyflogau angen codi. 

“Mae angen safoni y cyflogau efo iechyd”, meddai. 

“Er bod ni wedi codi cyflogau o fewn y flwyddyn mae angen edrych eto, ac yn fater i Lywodraeth Cymru edrych eto, ac iddyn nhw sylwi pa mor bwysig ydi gofal”.

“Dwi’n meddwl 'sa nhw’n cael gofal yn iawn yna 'sa na ddim gymaint o broblemau yn ein ysbytai”. 

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran Llwyodraeth Cymru mai’r nod o hyd ydi “creu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru”.

“Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau pwysig fel sefydlu Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth”. 

“Rydyn ni’n cydnabod y pwysau sy’n wynebu’r sector, a bydd cynydd o £253m yn y grant cynnal refeniw 2025-26 i adlewyrchu’r pwysau ychwanegol,”

“Ein ffocws yw sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu’n barhaus”. 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.