Newyddion ffug am ddefnydd gwestai i gartrefu ceiswyr lloches yn 'beryg'

Newyddion S4C

Newyddion ffug am ddefnydd gwestai i gartrefu ceiswyr lloches yn 'beryg'

Mae Cynghorau Sir yng Nghymru yn gweld cynnydd sylweddol mewn camwybodaeth ar-lein am ddefnydd gwestai i gartrefu ceiswyr lloches.

Yn ôl y corff sy’n cynrychioli cynghorau Cymru, mae'r cynnydd mewn newyddion ffug a sïon ar-lein ynglŷn a lleoliad posib y gwestai hyn yn achosi “pryder di angen” ac yn gallu arwain at "ganlyniadau anfwriadol".

Yn ôl yr Aelod o’r Senedd Siân Gwenllian, mae newyddion ffug tebyg wedi ymddangos ynglŷn â safle posib yn ei hetholaeth hi ac mae hi'n dweud bod sïon tebyg yn “beryg”.

Yn ôl Llywodraeth y DU, mae nifer y gwestai sy’n cael eu defnyddio wedi gostwng o dros 400 yn 2023 i 210 ar hyn o bryd.

Dros yr haf eleni, cafodd mwy o brotestiadau eu cynnal yn erbyn defnyddio gwestai i gartrefu ceiswyr lloches nag erioed o’r blaen gyda 3,081 rhwng dechrau Mehefin a 25 Awst yn y DU.

Cafodd rhai o’r protestiadau hyn eu cynnal yng Nghymru.

Ond mae arweinwyr cymunedau hefyd wedi dweud wrth Newyddion S4C iddyn nhw weld cynnydd mewn newyddion ffug ar-lein gyda phobl yn lledaenu negeseuon sy’n honni bod gwestai neu adeiladau penodol yn cael eu defnyddio at y diben hwn, lle nad oedd hynny’n wir.

Mae enghreifftiau dros yr haf ar Ynys Môn, Bangor, Merthyr Tudful,  a mwy lle mae sïon ar-lein wedi gorfodi awdurdodau lleol i gyhoeddi datganiadau yn gwrthod honiadau ar wefannau cymdeithasol.

"Corddi'r dyfroedd"

Yn ôl yr aelod dros Arfon, Siân Gwenllian, honnodd post ar wefannau cymdeithasol i adeilad ym Mangor gartrefu ceiswyr lloches, lle nad oedd hynny’n wir. Mae'n dweud i hynny arwain at bryderon yn y gymuned, tensiwn a chorddi teimladau.

“Mae’n beth peryg iawn i gorddi’r dyfroedd”, meddai.

“Da ni’n ymwybodol iawn bod ‘na densiwn yn bodoli”.

“Mae ‘na rai gwleidyddion yn defnyddio’r sefyllfa yna er mwyn creu tensiynau ac er mwyn buddiant gwleidyddol iddyn nhw eu hunain a dydi hyn ddim yn dderbyniol.. da ni’n sôn am bobl fan hyn”.

Pan ofynnwyd i Ms Gwenllian a oedd hi’n cydnabod bod gan rai unigolion bryderon am gost cadw ceiswyr lloches mewn gwestai ac am fewnfudo, dywedodd bod “pryderon yn cael eu creu efo cam wybodaeth”.

Ategu hyn wnaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a ddywedodd iddyn nhw weld cynnydd mewn cam wybodaeth ar draws siroedd Cymru.

“Rydym yn gweld cynnydd nodedig mewn cam wybodaeth yn cael ei ledaenu, yn enwedig ar-lein”.

“Mae mynd i’r afael â newyddion ffug yn hollbwysig wrth sicrhau ffydd a sicrhau bod cymunedau yn teimlo cefnogaeth ac yn derbyn y wybodaeth gywir”.

“Mae cam wybodaeth yn gallu lledaenu’n gyflym ac achosi pryder di-angen ac mewn rhai sefyllfaoedd yn arwain at ganlyniadau anfwriadol i unigolion a chymunedau”.

Mae ffigyrau’r Swyddfa Gartref yn dangos bod 32,059 o geiswyr lloches wedi’u cartrefu mewn gwestai ar draws y Deyrnas Unedig.

Dim ond 76 ohonyn nhw oedd yng Nghymru ac mewn un gwesty yng Nghaerdydd.

"Pryderon gwirioneddol" 

Tra bod y nifer sy’n cael eu cartrefu yng Nghymru yn fach o gymharu â’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr, mae'r Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru ac unig Aelod Reform UK yn y Senedd, Laura Ann Jones yn mynnu bod gan bobl bryderon gwirioneddol.

Wrth annerch cynhadledd Reform UK yn Birmingham ddechrau Medi, dywedodd bod gan bobl yr hawl i boeni.

“Mae pobl yn dweud... ‘o da chi yng Nghymru – dio ddim yn effeithio chi’... ond mae o”.

“Mae’n effeithio bob un ohonom, mae’n effeithio’n gwasanaethau cyhoeddus, ein diogelwch ac mae’n effeithio ar bob congl o’r Deyrnas Unedig”.

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn dweud eu bod nhw hefyd wedi gweld cynnydd mewn newyddion ffug a rhethreg ar-lein.

Yn ôl Llywodraeth Prydain mae nhw wedi cymryd camau brys i fynd i’r afael â’r broblem.

“Rydym wedi dechrau cau gwestai a hefyd dychwelyd mwy na 35,000 o bobl nad oedd â’r hawl i fod yma yn nôl”, meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“O’r mwy na 400 o westai oedd ar agor yn 2023, gan gostio bron i £9m y diwrnod, mae bellach llai na 210”.

“Y bwriad yw cau bob un erbyn diwedd y tymor seneddol”. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.