Porthladd Caergybi i aros ar gau tan ganol Ionawr
Bydd Porthladd Caergybi ar gau tan ganol mis Ionawr yn ôl Stena Line, y cwmni sy'n rheoli'r porthladd.
Daw'r datblygiad wrth i Aelod Seneddol Ynys Môn alw am 'gymorth brys' gan Lywodraeth y DU i ail-agor y porthladd.
Mewn llythyr at Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens ddydd Mawrth, dywedodd Llinos Medi AS ei bod yn ysgrifennu at y llywodraeth gan ei bod bellach yn "annhebygol iawn" y bydd y porthladd yn ail-agor cyn y Nadolig.
Cafodd y porthladd ei ddifrodi yn Storm Darragh, gyda chadarnhad yr wythnos diwethaf na fyddai yn agor tan o leiaf 19 Rhagfyr.
Ond dywedodd Stena Line ddydd Mawrth y bydd yn parhau ar gau tan 15 Ionawr.
"Mae'r holl wasanaethau fferi rhwng Caergybi a Dulyn yn cael eu canslo tan yr amser yma," medden nhw.
"Ar hyn o bryd rydym yn y broses o gysylltu â'r holl deithwyr sydd wedi eu heffeithio. Rydym yn deall yr aflonyddwch y mae hyn yn ei achosi ac rydym yn gweithio'n galed i gynnig opsiynau teithio gwahanol.
"Ar gyfer teithwyr a drefnodd i deithio ar Gaergybi – Dulyn o 20 Rhagfyr ymlaen, gallwch drosglwyddo eich archeb yn rhad ac am ddim a heb unrhyw wahaniaeth pris yn daladwy i lwybrau eraill."
Inline Tweet: https://twitter.com/llinos_medi/status/1868987790278771143
Ychwanegodd Llinos Medi: "Er bod y gwaith i ail-agor y porthladd yn parhau, mae'n glir fod y gwaith atgyweirio yn llawer mwy na'r disgwyl.
"Mae'r effaith ar y rhai sy'n dibynnu ar y porthladd am waith yn dorcalonnus, heb os: mae sawl busnes ar yr ynys eisioes wedi cael eu heffeithio a nifer o unigolion wedi colli eu gwaith ar unwaith."
Mae'r AS yn galw ar Lywodraeth y DU i "ddatgan ei rôl wrth gryfhau'r gwytnwch Porthladd Caergybi a chefnogi'r busnesau sy'n cynnal ein cysylltiadau masnach."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth y DU am ymateb.