Newyddion S4C

Dedfryd wedi'i gohirio i ddyn a oedd yn gysylltiedig ag ymchwiliad Huw Edwards

17/12/2024
Huw Edwards

Mae dyn 25 oed oedd â chysylltiad ag achos y cyn-ddarlledwr Huw Edwards wedi derbyn dedfryd o garchar wedi ei gohirio ar ôl pledio'n euog i gael lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Clywodd Llys Ynadon Leeds fod Jac Davies wedi bod yn destun ymchwiliad wedi i Heddlu'r De ddarganfod ei fod wedi bod yn rhannu lluniau gyda'r pidoffeil Alex Williams. 

Alex Williams wnaeth rannu y delweddau oedd ar gyfrif WhatsApp Huw Edwards, yn ôl Heddlu’r Met.

Dywedodd y llu bod Alex Williams, 25 oed, wedi pledio yn euog i feddu a dosbarthu lluniau anweddus o gategoriau A, B a C a meddu ar luniau anweddus o blant.

Ddydd Mawrth, dywedodd yr erlynydd Michelle Kruger: "Roedd Heddlu De Cymru wedi bod yn delio gydag Alex Williams. 

"Fel rhan o'r ymchwiliad i'r unigolyn hwnnw, daeth i'r amlwg fod y diffynnydd yma wedi bod chwarae ei ran wrth rannu lluniau anweddus.

"Roedd yna gyswllt rhwng Alex Williams a Huw Edwards, y cyflwynydd BBC News.

"Mae Williams a Mr Huw Edwards wedi derbyn achos llys, ac fe wnaeth Huw Edwards dderbyn dedfryd wedi'i gohirio am y lluniau anweddus yr oedd yn rhan ohonynt."

'Cydraddoldeb'

Clywodd Llys Ynadon Leeds fod 84 o luniau anweddus, gan gynnwys rhai o fabanod, wedi cael eu darganfod ym meddiant Jac Davies.

Dywedodd yr erlynydd fod 36 o luniau Categori A, y rhai mwyaf difrifol, 30 Categori B a 18 Categori C yn ei feddiant.

Ychwanegodd Ms Kruger fod sgwrs ar gyfrwng Telegram hefyd wedi cael ei ddarganfod gan swyddogion a oedd yn dangos Davies yn siarad gydag eraill am sut yr oedd eisiau "dinistrio babanod newydd-anedig" a disgrifio "mewn manylder graffig" yr hyn yr oedd yn bwriadu ei wneud iddynt.

Dywedodd cyfreithiwr Jac Davies y dylai osgoi carchar er mwyn sicrhau "cydraddoldeb" gyda Huw Edwards.

"Roedd y troseddau yr oedd yr unigolyn hwnnw yn ei wynebu yn y llys yn debyg i'r rhai y mae Mr Davies yn wynebu, ac wrth gwrs rydych chi'n ymwybodol, oherwydd fod yr erlynydd wedi amlinellu hyn, mai dedfryd wedi'i gohirio oedd y canlyniad yn yr achos hwnnw."

Cafodd ddedfryd o 12 mis yn y carchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.