'Siom': Rhai disgyblion yn dilyn cyrsiau TGAU gwyddoniaeth 'hen ac amherthnasol'

Newyddion S4C
Dosbarth Ysgol Bryn Tawe

Mae'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn "hynod o siomedig" y bydd rhai plant yng Nghymru yn dilyn cyrsiau gwyddoniaeth sy'n “hen ac amherthnasol".

O fis Medi 2026 fe all ysgolion gyflwyno cymwysterau gwyddoniaeth newydd fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru. 

Ond ar ôl i gynllun fyddai'n cael gwared ar bynciau gwyddoniaeth unigol gael ei ohirio, bydd gwersi cemeg, ffiseg a bioleg yn gallu parhau tan o leiaf 2031.

O ganlyniad, mae'r corff arholi CBAC wedi gwneud ychydig o newid i gwricwlwm y pynciau gwyddoniaeth hynny.

Ond mae'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol wedi dweud eu bod yn "hynod o siomedig" gan nad yw'n mynd yn ddigon pell.

Maen nhw'n teimlo fod llawer o'r cwrs gyda “gormod o gynnwys, yn hen ac nad yw’n berthnasol” erbyn hyn.

'Dim gymaint o wybodaeth a chyfle'

Dywedodd Delwen McCallum o'r gymdeithas bod angen tynnu rhai pethau o'r cwricwlwm a chyflwyno cynnwys newydd i’r pynciau gwyddoniaeth ar wahân, fel cynaladwyedd a newid hinsawdd.

"Mae'r gyrfaoedd yma fod i dyfu 30% yn y wlad yma yn y blynyddoedd nesaf a fydd plant Cymru ddim efo gymaint o wybodaeth a chyfle os di nhw ddim yn astudio'r ardaloedd yma," meddai.

Mae'r holl TGAU sy'n cael eu cynnig i ddisgyblion rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru wedi eu hadolygu a'u diweddaru fel rhan o'r cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno.

Mae'r cynllun gwreiddiol i gael gwared â’r pynciau gwyddoniaeth ar wahân wedi ei oedi am y tro gan Gymwysterau Cymru - y rheoleiddiwr.

Fe fydd yna gymwysterau newydd - TGAU dwbl gwyddoniaeth a sengl - yn cael eu cyflwyno o fis Medi'r flwyddyn nesaf.

Ond fe all ysgolion ddewis bod eu disgyblion yn parhau i astudio ffiseg, bioleg a chemeg fel cyrsiau ar wahân.

Image
Aled Mason
Mae Aled Mason yn bennaeth gwyddoniaeth yn Ysgol Bryn Tawe

Dywedodd Aled Mason, sy'n bennaeth gwyddoniaeth yn Ysgol Bryn Tawe ar gyrion Abertawe, bod yna farn gymysg i barhau i gynnig y cwrs triphlyg gwyddoniaeth.

"Rwy'n gwybod beth mae cymwysterau Cymru yn ceisio ei wneud yn clymu yn y gwyddorau gyda'i gilydd i ddangos bod 'na gysylltiadau," meddai.

"Ond mae gwyddoniaeth yn dri phwnc gwahanol yn fy marn i ac mae nifer yn cytuno ac anghytuno gyda hynny… ac i fi ddylen nhw barhau ar wahân."

Dywedodd disgyblion TGAU yr ysgol eu bod yn mwynhau cynnwys y cwricwlwm presennol.

Dywedodd Gwenan, 16, ei fod yn "agor cyfleoedd i bobol".

Mae Seren, 15, yn teimlo bod 'na fudd i astudio'r pynciau gwyddoniaeth ar wahân.

Image
Gwyddoniaeth
Gwennan a Seren

Mae Ellis, 17, bellach yn y chweched ddosbarth, ond yn dweud bod y cwrs gwyddoniaeth wedi rhoi "sylfaen" iddo ar gyfer Lefel A.

Dywedodd Cymwysterau Cymru y bydd TGAU gwyddoniaeth ar wahân yn parhau i fod yn gymharol o ran maint i'r cymwysterau presennol. 

"Bydd cynnwys y cwrs yn parhau i roi sylfaen gadarn o ddealltwriaeth wyddonol i ddysgwyr, gan eu galluogi i symud ymlaen i gymwysterau gwyddoniaeth Lefel AS a Lefel A, cymwysterau Lefel 3 eraill neu'n uniongyrchol i'r byd gwaith.” 

Dywedodd CBAC eu bod wedi cynnal arolwg gan ofyn os oedd angen gwneud unrhyw newidiadau i'r TGAU gwyddoniaeth presennol. 

"Derbyniwyd nifer da o ymatebion oddi wrth ysgolion a rhanddeiliaid eraill ar draws Cymru, a phenderfynwyd felly y byddem yn gweithredu ar sail yr hyn a dderbyniodd y gyfran fwyaf o gefnogaeth gan ymatebwyr, sef newid yr uned ymarferol yn y cymwysterau yn unig," meddai llefarydd.

"Roedd bron dwy ran o dair o'r ymatebwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn athrawon gweithredol, naill ai'n cefnogi'r opsiwn hwn neu'n ei gefnogi'n gryf. 

"Derbyniodd yr opsiynau oedd yn gofyn am newid yr holl unedau fwy o wrthwynebiad na chefnogaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.