Prif hyfforddwr y Gweilch Toby Booth yn gadael ei swydd ar unwaith
Mae Toby Booth wedi gadael ei rôl fel Prif Hyfforddwr rhanbarth rygbi'r Gweilch.
Bydd Mark Jones yn ymgymryd â rôl y Prif Hyfforddwr ar unwaith, meddai’r rhanbarth mewn datganiad ddydd Mawrth.
Roedd disgwyl i’r prif hyfforddwr adael ar ddiwedd y tymor ond mae’n gwneud hynny ddyddiau yn unig cyn gêm ddarbi gartref yn erbyn y Scarlets.
Collodd y Gweilch 59-15 i Montpellier yn y Cwpan Her ddydd Sadwrn, eu colled fwyaf erioed yn Ewrop.
“Hoffai’r Gweilch ddiolch i Toby am ei ymrwymiad a’i gyfraniadau i’r clwb yn ystod ei gyfnod wrth y llyw a dymuno’r gorau iddo yn ei ymdrechion i’r dyfodol,” meddai llefarydd ar ran y rhanbarth.
Ymunodd Toby â’r Gweilch fel Prif Hyfforddwr yn 2020.
Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, enillodd Darian Gymreig yr URC yn 2021/22 a 2023/24.
Arweiniodd y Gweilch i rowndiau Chwarterol Cwpan Her EPCR a gemau ail gyfle'r URC yn nhymor 2023/24.
Llun: Toby Booth a Mark Jones.