Diwrnod olaf ymchwiliad cyhoeddus sgandal Swyddfa'r Post
Ddydd Mawrth fydd diwrnod olaf ymchwiliad Sgandal Swyddfa'r Post.
Cymro o'r Rhondda sy'n cadeirio'r ymchwiliad cyhoeddus, sef y Barnwr Syr Wyn Williams.
Gyda mwy na 28 mlynedd o brofiad barnwrol, mae dyletswyddau Syr Williams yn cynnwys sicrhau fod yna grynodeb cyhoeddus o'r methiannau yn ymwneud â system dechnoleg Horizon. Fe arweiniodd y system honno at erlyniad ac euogfarnau cannoedd o is-bostfeistri.
Mae'r ymchwiliad wedi bod yn casglu tystiolaeth ers mis Chwefror 2022.
Bydd y datganiadau cloi yn edrych yn ôl ar bob agwedd o'r ymchwiliad, gan gynnwys tystiolaeth gan wleidyddion, uwch-swyddogion gweithredol yn Swyddfa'r Post yn ystod y sgandal a chyn is-bostfeistri.
Fe gafodd mwy na 900 o is-bostfeistri eu herlyn rhwng 1999 a 2015 wedi i feddalwedd cyfrifo diffygiol Horizon ddangos fod arian ar goll o'u cyfrifon post.
Fe wnaeth Swyddfa'r Post ei hun fynd â sawl achos i'r llys, gan erlyn 700 o bobl rhwng 1999 a 2015.
Cafodd 283 achos arall eu cyflwyno gan gyrff eraill, gan gynnwys Gwasanaeth Erlyn y Goron.