Newyddion S4C

Cau 'Pothole Land' ar ôl i'r cyngor atgyweirio'r ffyrdd

Pothole land

Mae 'Pothole Land', ardal yn sir Wrecsam a gafodd sylw rhyngwladol oherwydd cyflwr ei ffyrdd, wedi cau'n swyddogol ar ôl i'r cyngor wneud gwaith atgyweirio.

Cafodd lluniau o 'Pothole Land', sef ffyrdd o amgylch Glyn Ceiriog oedd â thyllau enfawr, eu rhannu cannoedd o weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ond mae cynghorwyr Cyngor Wrecsam wedi gwadu eu bod wedi gwneud gwaith atgyweirio nad oedd wedi ei drefnu o flaen llaw mewn ymateb i'r ymgyrch.

Yn hytrach, maen nhw'n mynnu bod y gwaith wedi'i amserlennu i ddigwydd yng nghanol mis Ionawr cyn i'r "atyniad" ddod i'r amlwg.

Mae rhai o’r tyllau gwaethaf yn yr ardal bellach wedi’u llenwi.

'Dim rhoi mewn i bwysau'

Mae arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard, yn rhybuddio'n erbyn y syniad mai "mynd yn firaol" yw'r ffordd orau i gyflawni pethau yn y sir.

"Dydyn ni ddim rhoi mewn i bwysau - os byddwn ni, byddai gennych chi anarchiaeth," meddai. 

"Mae gennym ni raglen adfer ar gyfer tyllau yn y ffordd yn seiliedig ar ddyfnder a blaenoriaeth.

"Rydym wedi newid y rhestr flaenoriaeth, lle’r oedd cyfran uwch o gyllid wedi’i ymrwymo i ffyrdd strategol yn flaenorol. 

"Nawr rydym wedi cyrraedd 50/50 rhwng ffyrdd strategol a ffyrdd cymunedol.

"Mae hynny’n golygu na fydd pob ffordd strategol yn cael ei gwneud ond mae’n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn."

Yn ôl dirprwy arweinydd Wrecsam, y Cynghorydd Dave Bithell, roedd y gwaith atgyweirio yn unol ag amserlen Adran yr Amgylchedd.

"Mae’n anodd cael y cydbwysedd yn iawn ond roedd y gwaith yn Nyffryn Ceiriog wedi’i gynllunio," meddai. 

"Mae’n ardal sydd wedi dioddef tirlithriadau, tywydd garw, llifogydd, mae yna faterion parhaus yn Nyffryn Ceiriog yr ydym yn ceisio eu datrys."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.