Newyddion S4C

Ymosodiadau Nottingham: Llofrudd wedi osgoi meddyginiaeth hanfodol oherwydd 'ofn nodwyddau'

Valdo Calocane wnaeth lofruddio tri o bobl yn 2023

Roedd dyn a drywanodd dri pherson i farwolaeth yn Nottingham wedi cael osgoi cymryd meddyginiaeth gwrthseicotig hanfodol oherwydd nad oedd yn hoffi nodwyddau.

Dyna un o ganfyddiadau ymchwiliad annibynnol oedd yn archwilio'r amgylchiadau a arweiniodd at Valdo Calocane yn trywanu Grace O'Malley-Kumar, Barnaby Webber ac Ian Coates ym mis Mehefin 2023.

Yn ôl yr adroddiad gan GIG Lloegr, nid oedd Calocane, sy'n dioddef o gyflwr sgitsoffrenia paranoaidd, wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl na’i feddyg teulu am tua naw mis cyn yr ymosodiadau.

Roedd hefyd wedi cael ei ryddhau ar ôl methu â bod mewn cysylltiad â nhw, meddai'r adroddiad.

Cafodd Calocane ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol mewn uned feddygol ar ôl pledio'n euog i ddynladdiad.

Image
Dioddefwyr ymosodiadau Nottingham
Fe gafodd Grace O'Malley-Kumar, Barnaby Webber ac Ian Coates eu trywanu'n farw 

Bwriad yr adolygiad annibynnol, gan Theemis Consulting, oedd edrych ar y driniaeth a roddwyd i Calocane gan Ymddiriedolaeth Iechyd GIG Sir Nottingham.

Roedd GIG Lloegr yn bwriadu rhyddhau crynodeb yn unig o'r adroddiad, ond newidiodd ei benderfyniad "yn unol â dymuniadau'r teuluoedd".

Mae'r teuluoedd yn dweud bod y ffaith bod Calocane wedi gwrthod ei feddyginiaeth yn dangos y gallai fod wedi "osgoi carchar ar sail tystiolaeth anghyflawn".

Derbyniodd erlynwyr ble o ddynladdiad ar ôl i arbenigwyr gytuno bod ei sgitsoffrenia yn golygu nad oedd yn gwbl gyfrifol am ei weithredoedd.

Ond mewn datganiad, dywedodd y teuluoedd: "Roedd hwn yn ddyn oedd yn mynd ati i osgoi ei feddyginiaeth a’i driniaeth, gan wybod pan na fyddai’n cymryd ei feddyginiaeth y byddai’n mynd yn baranoiaidd ac yn dreisgar.

"Fe oedd yn gyfrifol am ei weithredoedd a chafodd ganiatâd i wneud y penderfyniadau hyn gan ei dimau oedd yn ei drin. Ond eto pan ddaeth i’r llys, fe gawson ni stori wahanol iawn."

Yn ôl yr adroddiad, fe gafodd Calocane ei anfon i'r ysbyty bedair gwaith rhwng 2020 a 2022. 

Roedd wedi bod mewn cyswllt â thimau cymunedol sawl gwaith cyn iddo gael ei gyfeirio'n ôl at ei feddyg teulu, gan nad oedd wedi bod mewn cysylltiad gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl.

Roedd cofnodion clinigol Calocane yn awgrymu "nad oedd yn ystyried ei hun i fod â chyflwr iechyd meddwl", meddai'r adroddiad.

Roedd hynny'n golygu "nad oedd yn ymddangos fel pe bai'n deall" pwysigrwydd cymryd meddyginiaeth.

Fe wnaeth yr adolygiad ganfod "nad oedd y cynnig o ofal a thriniaeth oedd ar gael ar gyfer Valdo Calocane bob amser yn ddigonol i ddiwallu ei anghenion" ac nid oedd hyn "yn unigryw" i'w achos.

'System wedi gwneud pethau'n anghywir'

Mae swyddogion iechyd wedi cyfaddef ei bod yn "glir bod y system wedi gwneud pethau’n anghywir".

Dywedodd Dr Jessica Sokolov, Cyfarwyddwr Meddygol Rhanbarthol yn GIG Lloegr (Canolbarth Lloegr): "Mae’n amlwg bod y system wedi gwneud pethau’n anghywir, gan gynnwys y GIG, a gall canlyniadau pan fydd hyn yn digwydd fod yn ddinistriol.

"Nid yw hyn yn dderbyniol, ac rwy'n ymddiheuro'n ddiamod i deuluoedd dioddefwyr ar ran y GIG a’r sefydliadau a fu’n ymwneud â darparu gofal i Valdo Calocane cyn y digwyddiad hwn."

Ychwanegodd Claire Murdoch, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl Cenedlaethol GIG Lloegr: "Yn genedlaethol, rydyn ni wedi gofyn i bob ymddiriedolaeth iechyd meddwl adolygu’r canfyddiadau hyn a gosod cynlluniau gweithredu ar gyfer sut maen nhw’n trin ac ymgysylltu â phobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, gan gynnwys sut maen nhw’n gweithio gydag asiantaethau eraill fel yr heddlu.

"Ac rydyn ni wedi cyfarwyddo ymddiriedolaethau i beidio â rhyddhau pobl os nad ydyn nhw'n mynychu apwyntiadau."

Mae'r teuluoedd yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r ymosodiadau.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.