Newyddion S4C

Bwlio ac aflonyddu'n gyffredin mewn dau o Wasanaethau Tân Cymru

Gwasanaeth Tan

Mae adroddiad annibynnol i ddiwylliant gwaith dau o wasanaethau tân Cymru wedi dod i'r casgliad bod bwlio ac aflonyddu yn gyffredin ynddyn nhw.

Fe wnaeth 47% o'r gweithlu oedd wedi ymateb i arolwg Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) nodi eu bod wedi cael profiad personol o fwlio ac aflonyddu, gyda dros hanner (54%) yn dweud eu bod wedi bod yn dyst i'r fath ymddygiad ers Mehefin 2021.

Dywedodd un o bob pump o aelodau staff eu bod wedi profi gwahaniaethu, a dywedodd 10% o ymatebwyr benywaidd yr arolwg eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol.

Dywedodd yr adroddiad bod argraff ymysg y gweithwyr bod gweithdrefnau disgyblu yn "amhroffesiynol, yn rhagfarnllyd, ddim yn gyfrinachol, yn annheg ac yn aneffeithiol."

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd ei asesu fel rhan o'r adolygiad annibynnol.

Mae’r adroddiad hwnnw yn cydnabod bod gwelliannau wedi bod i’w diwylliant gwaith.

Ond roedd bwlio ac aflonyddu yn parhau i fod yn broblem “eang” yn y gwasanaeth, gyda dros 42% o ymatebwyr yr arolwg yn dweud eu bod nhw wedi cael profiadau personol ers mis Mehefin 2021.

Roedd bron i hanner (49%) hefyd wedi gweld ymddygiad o’r fath.

Dywedodd rhai o ymatebwyr yr arolwg eu bod nhw wedi teimlo yn "anniogel" a bod uwch arweinwyr wedi ymddwyn mewn modd “sarhaus”.

Roedd yr adolygiad o'r ddau wasanaeth gan gwmni Crest Advisory wedi ei greu mewn ymateb i gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o gynigion gwella diwylliannol y Gwasanaethau Tân ac Achub, gan asesu'r cynnydd a wnaed wrth "greu amgylcheddau gweithle cadarnhaol a nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu pellach."

Dywedodd yr adroddiad bod "lefelau uchel o fwlio ac aflonyddu, ofn dial a diarddel yn llesteirio hyder wrth adrodd, a diffyg hyder mewn gweithredu gan uwch arweinwyr, yn adlewyrchu diwylliant bwlio yng Ngwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru"

"Roedd gwrthwynebiad i newid, yn enwedig ar lefel weithredol, ac wedi’i wreiddio mewn strwythur sy’n blaenoriaethu ymladd tân gweithredol dros rolau diogelwch cyhoeddus ehangach, wedi rhwystro ymdrechion o ran newid diwylliannol cadarnhaol," meddai'r adroddiad.

Ymddiheuro

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Prif Swyddog Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas KFSM:  “Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll, hoffwn ymddiheuro i unrhyw un o'm cydweithwyr sydd wedi profi bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu ar unrhyw ffurf. 

"Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac nid yw'n cyd-fynd â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau yr ydym yn eu harddel neu'n eu cymeradwyo fel Gwasanaeth.  

"Yn ail, rwy'n derbyn y canfyddiadau a'r argymhellion yn yr adolygiad sy'n cefnogi fy uchelgais i wella diwylliant ein Gwasanaeth, a oedd yn un o fy nodau allweddol pan gefais fy mhenodi'n Brif Swyddog Tân. 

"Er ein bod yn amlwg wedi gwneud cynnydd i fynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r un mor amlwg bod angen i ni wneud mwy i sicrhau bod ein staff yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.

"Mae'r adolygiad hwn bellach yn rhoi argymhellion clir i ni i lywio gwelliannau yn ein diwylliant a'n hamrywiaeth yn y dyfodol.” 

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Cynghorydd Gwynfor Thomas: “Mae aelodau Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn drist o ddarllen canfyddiadau’r adolygiad diwylliant annibynnol o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

"Rydym wedi ein syfrdanu gan ddewrder pobl wrth roi adborth agored, gonest a heriol, a diolch i’r rhai a gyfrannodd y gallwn weld y brys y mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio i fynd i’r afael â diwylliant ac ymddygiad gwael lle mae’n bodoli. 

"Yr hyn sy’n bwysig nawr yw bod staff, rhanddeiliaid allweddol a’r cyhoedd yn gallu gweld a chyfrannu at newid ystyrlon i gryfhau diwylliant y gweithle yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru."

Dywedodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gogledd Cymru: “Mae ein staff wedi gofyn am newid, ac rydym yn gwrando. Gwerthfawrogwn eu dewrder wrth ddarparu adborth gonest. 

"Maent wedi cydnabod y gwelliannau a wnaed eisoes ond yn awgrymu fod gennym dipyn o ffordd i fynd eto.

“Mae’r adolygiad hwn yn drobwynt i ni ac rydw i eisiau dweud sori wrth y rhai sydd heb gael profiad da – mae pawb yn haeddu teimlo eu bod yn cael eu clywed, yn ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi yn eu gweithle."

Dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ei fod yn disgwyl i'r  Cadeiryddion a'r Penaethiaid "weithredu ar fyrder ac yn bwrpasol" wrth fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adroddiadau ac wrth gefnogi eu staff. 

"Byddaf yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa ac yn mynd ati ar unwaith i sefydlu sut orau i gyflawni a chynnal newid diwylliannol ar draws y Gwasanaeth Tân ac Achub," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.