Cyhuddo dyn o gynhyrchu gwerth miloedd o bunnoedd o ganabis yn Sir Gâr
Mae dyn 32 oed wedi'i gyhuddo o gynhyrchu gwerth miloedd o bunnoedd o ganabis yn Sir Gâr.
Cafodd Nurdin Hoxha ei arestio a'i gyhuddo o gynhyrchu'r cyffur dosbarth B ar ôl i Heddlu Dyfed Powys weithredu warant chwilio mewn cyfeiriad ar Hen Heol Llangynnwr yng Nghaerfyrddin ddydd Mawrth.
Ar ôl cael mynediad i'r eiddo, daeth swyddogion o hyd i 394 o blanhigion canabis gwerth tua £380,000.
Ymddangosodd Hoxha yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher ond cafodd yr achos ei symud i Lys y Goron.
Bydd yn parhau yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys Y Goron Abertawe ar 7 Mawrth.