Nifer y bobl a fu farw o ganlyniad i alcohol ar ei lefel uchaf erioed
Mae nifer y bobl a fu farw o ganlyniad i alcohol ledled y Deyrnas Unedig ar ei lefel uchaf erioed, yn ôl ffigyrau newydd.
Dyma yw’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i'r ffigyrau godi i’w lefel uchaf ar gofnod, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae arbenigwyr eisoes wedi galw am fesurau pellach i fynd i’r afael â'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel “argyfwng iechyd” – gan gynnwys gosod isafswm pris ar bob uned o alcohol, rhybuddion ar labeli, a rheolau hysbysebu llymach.
Roedd tua 10,473 o bobl wedi marw o achos alcohol yn y DU yn 2023, a hynny wedi cynyddu o’r 10,048 a fu farw yn 2022.
Roedd yr holl farwolaethau a chysylltiad uniongyrchol ag alcohol, er enghraifft datblygu clefyd yr afu ar ôl bod yn gaeth i alcohol.
Mae'r gyfradd marwolaethau wedi cynyddu yng Nghymru a Lloegr yn ogystal, gan godi o 15.0 i 17.7 o farwolaethau pob 100,000 person rhwng 2022 a 2023.
Roedd y gyfradd gyfartalog yn y DU wedi cwympo o 16.6 i 15.9 pob 100,000 person.
Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn parhau â’r gyfradd marwolaeth uchaf yn y DU, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae cyfradd marwolaethau dynion wedi parhau i fod tua dwywaith yn uwch na menywod, sef 21.9 fesul 100,000 o gymharu â 10.3 fesul 100,000 yn 2023.
'Brawychus'
Mae cadeirydd Alcohol Health Alliance, sef grŵp o dros 60 o sefydliadau sy’n ceisio lleihau’r niwed a achoswyd gan alcohol, wedi rhybuddio yn erbyn y peryglon o “normaleiddio” gor-yfed.
Mae’r Athro Syr Ian Gilmore ymhlith y rheiny sy’n galw am fesurau fel isafswm pris pob uned o alcohol fel mater o frys er lles pobl.
Fe gafodd mesurau o’r fath eu cyflwyno yn yr Alban yn 2018 gan olygu na chaiff cwrw, gwin neu fodca eu gwerthu am lai na 65c yr uned.
Dywedodd prif weithredwr elusen British Liver Trust, Pamela Healy: “Yn anffodus, dyw’r ffigyrau yma ddim yn synnu rhywun.
“Rydym yn byw yng nghysgod arferion yfed niweidiol a pheryglus sydd dim ond wedi gwaethygu ers y pandemig.
“Mae’r ffigyrau diweddaraf yma’n dangos maint brawychus yr argyfwng iechyd.”