Diffyg hygyrchedd ar nosweithiau allan yn 'broblem enfawr'
Diffyg hygyrchedd ar nosweithiau allan yn 'broblem enfawr'
Mae'n gyfnod partio a gyda'r Nadolig yn agosau mae ffeindio lleoliad hygyrch i ddathlu yn drafferth i nifer.
Fel person anabl, dw i wedi ei chael hi'n anodd i ffeindio digon i lefydd hygyrch ac mae eraill yn cael yr un broblem.
Beth mae dy brofiadau di wedi bod fel person anabl ar noson allan?
"Y ffiniau dw i'n wynebu ar nosweithiau allan mae'n achosi fi i gael diffyg hyder yn mynd allan.
"Nid dim ond rhwystrau corfforol ond hefyd agweddau pobl.
"Gwrthod rhoi gwasanaeth i fi oherwydd bod e'n edrych fel fy mod i wedi meddwi.
"Mae cerebral palsy gyda fi.
"Mae fe weithiau yn ymddangos yn debyg i bobl sydd wedi meddwi.
"Beth ydych chi'n profi? Pa heriau?"
Fi'n stryglo i ffeindio rhywle i eistedd lawr yn enwedig os mae'r lle yn brysur a'r seddi i gyd wedi cael eu cymryd.
Gyda phartion Nadolig, ti eisiau bod yna a bod yn rhan o'r hwyl ond os nag oes digon o lefydd i eistedd neu os oes angen straffaglu lan grisiau sydd ddim angen bod yna mae'n gallu torri fy noson yn fyr a dw i angen mynd adref.
Fi 'di blino neu mae fy nghorff wedi brifo ar ôl sefyll o gwmpas.
"Chi jyst moyn bod fel pob un arall.
"Weithiau, dyw hynny ddim yn bosibl oherwydd y ffiniau sy'n bodoli."
Mae 24% o boblogaeth y DU ag anabledd sef dros 16 miliwn o bobl.
Mae 66% o bobl anabl yn cael trafferth i gael mynediad i fariau, clybiau a chaffis.
"Mae diffyg hygyrchedd yn broblem enfawr nid yn unig o ran lleoliadau ac adeiladau ond hefyd yr amgylchedd o fewn yr adeilad.
"Mae'n bwysig bod staff yn cael hyfforddiant cydraddoldeb anabledd.
"Bydd yn help i ddeall y rhwystrau sy'n bodoli i bobl anabl ac yn gallu gweithio efo ni i ddileu'r rhwystrau i greu cymdeithas mwy hygyrch."
Felly, y dymuniad i nifer yn Nadolig yma yw y bydd lleoliadau yn parhau i gydnabod anghenion pobl anabl ac yn newid eu hamgylchedd i gynnwys pawb.