Newyddion S4C

Siopau lleol yn pryderu am gyfnod 'tawel' cyn y Nadolig

16/12/2024

Siopau lleol yn pryderu am gyfnod 'tawel' cyn y Nadolig

Ben bore Gwener ac roedd Esyllt Anwyl yn gosod popeth yn ei le i'r cwsmeriaid.

Mae'n gobeithio bydd y teganau wedi cael cartref newydd i'r Nadolig ond pa mor brysur ydy hi?

"Roedd Tachwedd yn fis da ac mae Rhagfyr wedi bod yn dawel.

"Ni gyd yn teimlo bod y dref yn gyffredinol wedi bod yn dawel.

"Wnaeth y storm ddim helpu ni ddydd Sadwrn.

"Mae wedi bod yn dawel."

Lleihau wnaeth economi'r DU yn ystod mis Hydref 0.1%.

Dim llawer ond lleihau er hynny.

Union yr un peth ym mis Medi hefyd.

Mae cyfraddau llog wedi dechrau dod i lawr.

Prif gyfradd Banc Lloegr bellach yn 4.75%.

Gall hynny fod yn rhywfaint o hwb i'r economi dros gyfnod os bydd taliadau morgais pobl yn dechrau mynd i lawr.

Roedd 'na dipyn o fynd ar y stondinau yn y farchnad Nadolig ond oedd y gwerthwyr yn fodlon eu byd.

"Ni 'di bod ar agor am fis hyd yn hyn ac mae 'di bod yn dda.

"Ni 'di cael cwpl o ddiwrnodau ffantastig.

"Cafodd y tywydd effaith arnom ond hyd yn hyn, mae 'di bod yn wych."

Nid dyma'r Nadolig cyntaf chi 'di bod wrthi.

Sut mae'n cymharu efo'r Nadoligau sydd wedi bod?

"Mae 'di bod yn debyg ac yn edrych ymlaen i'r wythnos olaf i'r boost mawr cyn y Nadolig cyn y rush."

I'r siopau sydd yma drwy'r flwyddyn, mae'n dal i fod yn gyfnod pwysig.

"Yn gyffredinol, mae wedi bod yn dawel.

"Wythnos ddiwethaf, cafon ni griw o Americanwyr mewn.

"Maen nhw'n tueddu i wario mwy achos mae'r llwyau caru yn unigryw i Gymru ac yn apelio atyn nhw.

"Wnaethon nhw wario dipyn ar y llwyau caru i fynd yn ôl adref neu i yrru i rywun.

"Ond, mae wedi bod yn dawel."

Tra'n cydnabod nad ydy'r ffigyrau economaidd gyda'r gorau mae'r Canghellor yn dweud bod gwell i ddod.

"The numbers on GDP are disappointing.

"It's not possible to turn around a decade of poor ecomonic growth and stagnant living standards in a few months."

Yn ôl yr economegydd yma llusgo'n ei blaen mae'r economi wedi ei wneud ers rhai blynyddoedd.

"Os chi'n edrych ar sut mae economi Prydain wedi perfformio ers 2008 dyw e ddim wedi tyfu o gwbl os ti'n sbio at per capita GDP y real per capita GDP."

Cyfoeth y pen, felly.

"Ni mewn cyfnod hir iawn o sglerosis.

"Doedd pethau ddim yn tyfu.

"Ar hyn o bryd mae'n galed gweld sut mae un Llywodraeth yn Llundain yn gallu cael pethau i dyfu i fel sut oedden nhw cyn 2008.

"Mae'n yffach o sialens."

Mae'n flwyddyn welodd Lywodraeth newydd.

Efallai bod newid economi Prydain yn siwrnai ychydig yn fwy graddol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.